Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynghorydd Rheoli Absenoldeb (dyddiad cau: 14/05/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Dros dro tan 31 Mawrth 2026. Ydych chi'n angerddol am gefnogi ysgolion a sicrhau amgylchedd gwaith iach i staff? Rydym yn chwilio am Gynghorydd Rheoli Absenoldeb ymroddedig i ymuno â'n tîm a chanolbwyntio ar reoli salwch mewn ysgolion

Teitl y swydd: Cynghorydd Rheoli Absenoldeb
Rhif y swydd: CS.73680
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Rheoli Cynghorydd Absenoldeb (C.73680) Disgrifiad Swydd (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73680


Dyddiad cau: 11.45pm, 14 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i Benaethiaid ar reoli salwch staff hirdymor.
  • Paratoi a rheoli gohebiaeth a gwaith papur achos ar gyfer gwrandawiadau absenoldeb salwch.
  • Cyd-fynd â phenaethiaid ym mhob cam ffurfiol o gyfarfodydd a gwrandawiadau absenoldeb salwch hirdymor.
  • Cysylltu ag Undebau Llafur ynglŷn ag achosion salwch.
  • Darparu hyfforddiant ac arweiniad ar reoli absenoldeb salwch a lles gweithwyr.
  • Gweithredu strategaethau ymyrraeth gynnar i gefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.
  • Anelu at leihau lefelau absenoldeb salwch a chostau cysylltiedig o fewn cyllidebau ysgolion.

Cymwysterau a Sgiliau:

  • Dealltwriaeth gref o bolisïau a gweithdrefnau absenoldeb salwch.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Y gallu i weithio ar y cyd ag arweinyddiaeth ysgol a rhanddeiliaid allanol.
  • Profiad o reoli achosion absenoldeb salwch cymhleth.
  • Dull rhagweithiol o ddatrys problemau a rheoli achosion

Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol ar les staff yr ysgol a sicrhau amgylchedd gwaith cefnogol ac iach. Gwnewch gais nawr i fod yn rhan o'n tîm ymroddedig!

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ebrill 2025