Ysgol Gynradd Crwys: Athro
(dyddiad cau: 04/06/25 hanner dydd). Swydd Addysgu Llawn-amser Dros Dro o Medi 1af 2025, i Awst 31ain 2026 yn y lle cyntaf, gyda'r posibilrwydd o estyniad. Llawn-amser. MPS/UPS. Angen ar gyfer dechrau ym Medi 2025.
Mae Ysgol Gynradd y Crwys ym mhentref Three Crosses ar y porth i Benrhyn Gŵyr. Rydym yn ysgol sy'n ymfalchïo yn ei hethos hapus, ei hamgylchedd gofalgar a'r awydd i i wneud y gorau i bawb yng nghymuned yr ysgol.. Rydym yn cael ein cefnogi gan ein Corff Llywodraethol rhagorol, ymroddedig a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig a dawnus sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein disgyblion yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Mae'r pennaeth a'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi athro brwdfrydig ac angerddol i ymuno â'n tîm cyfeillgar a phroffesiynol. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd newydd gymhwyso a chan staff profiadol.
BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS:
- Yn ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth Yn greadigol ac yn gallu ysbrydoli dysgu y tu hwnt i'r dosbarth;
- Yn rhywun sy'n gweithio'n dda iawn fel rhan o dîm;
- Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad a gofal pob disgybl;
- Yn rhywun sy'n ymroddgar, yn gweithio'n galed ac yn awyddus i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol;
- Yn meddu ar sgiliau trefniadol, cyfathrebu a rhyngbersonol da;
- Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ddatblygu llais dysgwyr, dysgu dan arweiniad disgyblion a gwella llesiant;
- Yn meddu ar sgiliau TGCh effeithiol ac yn gallu defnyddio'r rhain i wella dysgu.
BETH RYDYM YN GYNNIG:
- Plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac yn bleser i addysgu;
- Tîm proffesiynol, gweithgar a brwdfrydig o athrawon a staff cymorth sy'n ymroddedig i ddatblygu a chodi safonau;
- Corff llywodraethol hynod gefnogol;
- Ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol a'ch lles;
- Yr ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy'n frwd dros sicrhau y gall eu plant fod y gorau y gallant fod;
- Cyfleoedd i feithrin a datblygu partneriaethau gydag ystod o asiantaethau o fewn y gymuned, a
- Amgylchedd anogol lle mae pob plentyn a phob person yn cael ei werthfawrogi.
Gwahoddir i ddarpar ymgeiswyr dod ar daith o amgylch yr ysgol, am 4pm ar ddydd Mawrth Mai 20fed neu ddydd Iau Mai 22ain 2025. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, felly rhaid archebu lle ymlaen llaw. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01792 872473.
Fel arall, mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan ein hysgol www.crwysprimary.co.uk
Dim ond ymgeiswyr ar y rhestr fer y cysylltir â nhw a bydd gofyn iddynt ddangos eu haddysgu rhagorol trwy arsylwi gwersi i'w gytuno gyda'r pennaeth.
Gellir cael ffurflenni cais o https://swansea.gov.uk/schooljobs
Ysgol Gynradd Crwys Athro - Athrawes Disgrifiad Swydd (PDF, 332 KB)
Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)
Cyflwynwch lythyr cais a ffurflen gais wedi'i chwblhau i'r Pennaeth, Mr Dylan Saer: saerd1@hwbcymru.net
Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar ddatgeliad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda'r CGA cyn dechrau cyflogaeth.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu lles y plant ac yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae angen gwiriad DBS manwl ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Taith o amgylch yr Ysgol: Dydd Mawrth Mai 20fed neu ddydd Iau Mai 22ain 2025 (4pm)
Dyddiad Cau: Dydd Mercher Mehefin 4ydd 2025 (Canol dydd)
Llunio rhestr fer: Dydd Mawrth Mehefin 10fed 2025
Arsylwadau: I'w trefnu
Cyfweliadau: Dydd Gwener Gorffennaf 27ain 2025
Gofyn dechrau: Dydd Llun Medi 1af 2025
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol