Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 (dyddiad cau: 13/06/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata. Gweithiwr Cymorth Dydd -18 awr yr wythnos, yn cefnogi merch sydd angen cymorth ar sail 1-1 i gwrdd â'i chanlyniadau lles personol a chymdeithasol yng Ngwasanaeth Dydd Fforestfach. Mae hon yn swydd dros dro i ddechrau am 1 flwyddyn.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1
Rhif y swydd: SS.73695
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 SS.73695 (PDF, 269 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.73695
Dyddiad cau: 11.45pm, 13 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd cyffrous o fewn gofal cymdeithasol?
Edrychwch yma os ydych chi a gofynnwch yr ychydig gwestiynau hyn i chi'ch hun?
- Ydych chi'n berson cymhellol, caredig, deallus, brwdfrydig a gofalgar?
- Ydych chi'n wrandäwr da gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol?
- Ydych chi'n gallu cefnogi person i gyflawni eu canlyniadau a'u nodau personol?
- Allwch chi weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person?
- Oes gennych chi brofiad o gefnogi eraill mewn gofal personol?
- Ydych chi'n gallu dangos dealltwriaeth dda o werthoedd gofal cymdeithasol?
- Ydych chi wedi cael profiad o gefnogi pobl ag Anableddau Dysgu?
- Oes gennych chi ddull hyblyg?
- Oes gennych NVQ/QCF lefel 2 mewn Gofal?
- Ydych chi'n barod i weithio tuag at ennill cymhwyster mewn gofal cymdeithasol?
- Oes gennych chi ddull hyblyg?
- Allwch chi weithio o dan gyfarwyddyd rheolwr y tîm, a dangos parodrwydd i gefnogi os oes angen gwneud hynny mewn meysydd eraill o'r gwasanaeth?
- Allwch chi weithio gydag eraill, gan gynnwys teuluoedd gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau?
- Ydych chi'n arloesol?
Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi?
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yng Ngwasanaeth Dydd Fforestfach.
Rydym yn edrych i gyflogi 1 x 18 awr yr wythnos, gweithiwr Cymorth Dydd i gefnogi unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, tra'n hyrwyddo a chefnogi canlyniadau cymdeithasol a lles y person.
Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dyma ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi?
- Byddwch yn rhan o dîm deinamig.
- Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud yr hyfforddiant cywir, i ennill y ddealltwriaeth, y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y rôl.
- Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu ar hyd y ffordd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi o fewn eich rôl newydd a chyfle i drafod agweddau ar y rôl gyda'ch rheolwr.
- Byddwch yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos - i'w drafod mewn cyfweliad.
- Mae buddion eraill yn cynnwys cyfradd cyflog ardderchog a hawl gwyliau blynyddol ardderchog.
Os hoffech drafod y rôl, bydd y Rheolwyr Anwen Rosser neu Georgina Davies yn gallu rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu. Ffoniwch - Ffôn:- 01792 588614
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.