Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gweithredu Cynllunio Prosiectau Ysgolion (dyddiad cau: 18/06/25)

£35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn. Cyfle gwerth chweil i arwain a rheoli cyflawni prosiectau cyfalaf ysgolion a chefnogi cyflawni prosiectau mawr er budd ein dysgwyr, cymunedau ysgolion, a chenedlaethau'r dyfodol. Mae hon yn swydd ran-amser, yn gweithio dau ddiwrnod llawn yr wythnos (sy'n cyfateb i 14 awr a 48 munud).

Teitl y swydd: Swyddog Gweithredu Cynllunio Prosiectau Ysgol
Rhif y swydd: ED.66068-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgol (ED.66068-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 232 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.66068-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn dymuno penodi Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiect Ysgol ar sail rhannu swyddi i'w Tîm Cyfalaf. Bydd deiliad y swydd yn ystwyth, yn gweithio gartref, neu mewn gofod gweithio ystwyth yn Neuadd y Dref yn ôl anghenion busnes, ac yn mynychu ysgolion a safleoedd pan fo angen. 

Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Grŵp Cyflawni a bydd ganddo gyfrifoldeb llawn am arweinyddiaeth, rheoli, cynllunio adnoddau, a chyflawni prosiectau cyfalaf ar raddfa lai a darparu cymorth prosiect ar gyfer prosiectau mawr. 

Mae'r rôl yn un amrywiol ac yn gofyn am ymagwedd hyblyg at ddyletswyddau i gynorthwyo i reoli asedau a gwella ystâd yr ysgol.  Bydd deiliad y swydd yn gallu dangos llygad da am fanylion, galluoedd cynllunio a rheoli prosiect effeithiol a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mehefin 2025