Toglo gwelededd dewislen symudol

Pennaeth Gwasanaethau Adeiladu a Gwastraff (dyddiad cau: 19/06/2025)

£85,884 i £97,862, y flwyddyn. Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a deinamig i ymuno â'n hŷm uwch sy'n goruchwylio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Adeiladu a Gwastraff ar gyfer Abertawe.

Teitl y swydd: Pennaeth Gwasanaethau Adeiladu a Gwastraff
Rhif y swydd: PL.0003-V2
Cyflog: £85,884 i £97,862
Proffiliau Swydd:Pennaeth Gwasanaethau Adeiladu a Gwastraff (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.0003-V2

Dyddiad cau:19 Mehefin 2025, 11.45pm

Rhagor o wybodaeth

Byddwch yn gyfrifol am atgyweirio, cynnal a chadw a chydymffurfio ym mhob adeilad y Cyngor, prosiectau adeiladu gan gynnwys Tai ac Ysgolion, ein Cynllun Prentisiaethau crefftau, casglu gwastraff, ailgylchu a gorfodi.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes o arwain a gwella gwasanaethau. Mae hon yn uwch rôl arwain sy'n gofyn am lefel uchel o sgiliau negodi, gallu ysgogol a'r hyblygrwydd i ddelio â materion cymhleth iawn. Mae angen lefel uchel o dact, diplomyddiaeth ac ymwybyddiaeth wleidyddol hefyd i alluogi gweithio effeithiol ar draws adrannau a ffiniau sefydliadol.

Mae'r rôl yn agored i unigolion sydd â phrofiad uwch sylweddol mewn Adeiladu a/neu Wastraff. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir proffesiynol mewn o leiaf un o'r meysydd hyn. Bydd gallu i ddeall, gweithio gyda phobl a dysgu oddi wrthynt yn bwysig. 

Bydd angen i ymgeiswyr ar y rhestr fer fod ar gael ar 10 Gorffennaf 2025 a 18 Gorffennaf 2025 ar gyfer y broses Asesu a Phenodiadau.

Diogelu

O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mehefin 2025