Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cyflogres a Phensiynau Prentis (dyddiad cau: 06/08/25)

£25,584 (60% blwyddyn 1, 75% blwyddyn 2 - Gradd 5 (Scp 7). Cyfle cyffrous i ymuno â'r tîm cyflogres fel Swyddog Cyflogres a Phensiynau Prentis.

Teitl y swydd: Swyddog Cyflogres a Phensiynau Prentis
Rhif y swydd: CS.73825
Cyflog: £25,584 (60% blwyddyn 1, 75% blwyddyn 2 - Gradd 5 (Scp 7)
Disgrifiad swydd: Prentis Swyddog Cyflogres a Phensiynau (CS.73825) Disgrifiad Swydd (PDF, 260 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73825

Dyddiad cau: 11.45pm, 6 Awst 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Tîm Cyflogres y Ganolfan Wasanaeth i ddod yn Brentisis Swyddog Cyflogres a Phensiynau.

Byddwch yn gyfrifol, o dan oruchwyliaeth y Goruchwyliwr Cyflogres a'r Rheolwr Cyflogres ac aelodau'r tîm i gynorthwyo i gynhyrchu'r gwahanol gyflogresau ar gyfer Dinas a Sir Abertawe drwy'r system Oracle, bydd y rôl yn cynnwys cofnodi a chynnal cofnodion gweithwyr i sicrhau bod yr holl newidiadau ac ychwanegiadau at gofnodion yn cael eu hawdurdodi a'u talu'n briodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau statudol yr Awdurdod.

Mae'r rôl hon mewn amgylchedd prysur cyflym iawn a byddai'n addas i ymgeisydd sy'n gweithio'n dda o dan bwysau ac i ddyddiadau cau llym.

Mae'r rôl yn gweithio ystwyth a bydd yn cynnwys cymysgedd o weithio gartref a phresenoldeb swyddfa.

Byddwch yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Gorffenaf 2025