Lefel 1-2 Sgiliau Hanfodol llythrennedd Digidol [Dydd Mercher 3.30pm - 5.30pm] DL092509DS
Hyd - 12 wythnos
Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn golygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau ac ymddygiad o ran defnyddio dyfeisiadau digidol.
- Cyfrifoldeb Digidol - gwybod sut i gadw'n ddiogel a gweithredu'n briodol ar-lein
- Cynhyrchiant Digidol - gwybod pa dechnolegau, arfau a dulliau i'w defnyddio a sut i drefnu, rhannu ac amddiffyn gwybodaeth ddigidol Llythrennedd ym maes.
- Gwybodaeth Ddigidol - gallu canfod, gwerthuso'n feirniadol a defnyddio gwybodaeth ddigidol yn ddiogel
- Cydweithredu Digidol - rhannu gwybodaeth a chydweithredu ag eraill i gwblhau tasgau a datrys problemau
- Creadigrwydd digidol - gallu defnyddio cyfryngau digidol i gwyblhau tasgau, cynhyrchu cynnwys a datblygu cyfleoedd.
Er mwyn ennill y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth sy'n cynnwys trafodaeth strwythuredig. Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol.
Fformat dysgu: wyneb yn wyneb
Côd y cwrs: DL092509DS