Mentor Cyflogaeth Oedolion (dyddiad cau: 20/08/25)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mentor Cyflogaeth, sy'n darparu cymorth cyflogaeth pwrpasol i gyfranogwyr sy'n byw yn Abertawe, yn ogystal â mentora dwys un i un i'w helpu i nodi a chymryd camau ymarferol i oresgyn rhwystrau sy'n eu hatal rhag derbyn hyfforddiant a chyflogaeth a nodwyd.Mae hwn yn gyfle dros dro sydd ar gael tan 31 Mawrth 2026.
Teitl y swydd: Mentor Cyflogaeth Oedolion
Rhif y swydd: SS.66739-V1
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Mentor Cyflogaeth Oedolion (SS.66739-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 277 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66739-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 20 Awst 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd y Mentor Cyflogadwyedd yn darparu mentora dwys un i un i gyfranogwyr i'w helpu i nodi a chymryd camau ymarferol i oresgyn rhwystrau sy'n eu hatal rhag derbyn hyfforddiant a chyflogaeth a nodwyd.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi llwyth achosion o gyfranogwyr, a nodwyd fel rhai sy'n gymwys i dderbyn gwasanaethau o dan y rhaglen, gan ddatblygu a gweithredu eu cynlluniau gweithredu, mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a sicrhau cyflogaeth tra'n hyrwyddo gwasanaethau'r Rhaglen yn weithredol i ystod eang o randdeiliaid.
Byddwch yn grymuso, ysgogi a chefnogi cyfranogwyr i symud i mewn ac, yn bwysicaf oll, cynnal cyflogaeth. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth hyblyg, o ansawdd uchel, gan weithio mewn partneriaeth â llawer o ddarparwyr mewnol ac allanol i'r Cyngor, a bydd disgwyl iddo weithio fel rhan o dîm integredig.
Cefnogi cyfranogwyr trwy ddull person-ganolog o fentora a hyfforddi a mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth (sy'n deillio o dlodi ac anweithgarwch hirdymor), darparu ymyriadau ar sail allgymorth, a chefnogi cyfranogwyr yn y gymuned.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol