Sbaeneg Canolradd [Dydd Mawrth 5.15pm - 7.15pm] EN092580SM
Gyda Susana Sanchez Martin. Parhewch ar eich taith i ddysgu'r iaith hyfryd hon mewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol. Mae angen peth gwybodaeth am a/neu brofiad o Sbaeneg. Bydd y ffocws ar Sbaeneg ymarferol i deithwyr: sgiliau siarad a gwrando. Byddwn hefyd yn gwneud ychydig o ddarllen ac ysgrifennu mewn Sbaeneg.
Hyd: 1 wythnos.
Dosbarth yw hwn i bobl â rhywfaint o wybodaeth flaenorol am Sbaeneg, naill ai drwy astudiaeth, teithio neu'r ddau. Ein prif ffocws yw eich galluogi i gyfathrebu'n fwy hyderus yn Sbaeneg ac ehangu eich gwybodaeth am eirfa a strwythurau y gallwch eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn.
Byddwn yn gweithio'n unigol, mewn parau, mewn grwpiau bach ac fel dosbarth i ddatblygu ein sgiliau, ein gwybodaeth a'n hyder mewn siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu a deall Sbaeneg.
Bydd elfennau o'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Siarad yn Sbaeneg.
- Ymarfer gwrando ar eraill yn siarad Sbaeneg er mwyn cynyddu dealltwriaeth.
- Cysylltu'ch gwybodaeth o ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg a Saesneg, â Sbaeneg.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu sgiliau a magu hyder.
- Darllen mewn Sbaeneg i atgyfnerthu geirfa a strwythurau y gallwch eu defnyddio.
Fformat dysgu: wyneb i wyneb
Côd y cwrs: EN092580.SR