Ysgol Gyfun Penyrheol: Athro Gwyddoniaeth
(dyddiad cau: 06/10/25 am 3pm). (Cymysg) (865 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16). Athro Gwyddoniaeth (0.6) - Dau Dymor yn y Lle Cyntaf o fis Ionawr 2026 (MPS/UPS)
Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais
Gorseinon
Abertawe
SA4 4FG
Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd deinamig a brwdfrydig ymuno â'n hAdran Wyddoniaeth lwyddiannus. Mae'r swydd hon ar gyfer dau dymor yn y lle cyntaf. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.
Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)
Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.swansea.gov.uk
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at sciencejobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk
Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Llun 6 Hydref 2025
Rhestr fer: Dydd Mercher 8 Hydref 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 10 Hydref 2025
Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr o'r dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd. Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Iau 9 Hydref gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.
Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch
Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol