Toglo gwelededd dewislen symudol

Newidiadau trwyddedu HMO yn Abertawe yn 2026

Ar 2 Hydref 2025, cytunodd Cyngor Abertawe ar Bolisi Trwyddedu HMO newydd a fydd yn cael ei roi ar waith o 14 Chwefror 2025.

Bydd trwyddedu HMO ychwanegol yn parhau yn wardiau'r Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau am bum mlynedd arall.

Bydd Cynllun Trwyddedu HMO ychwanegol 2025 (Y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau) yn disodli cynllun Trwyddedu HMO presennol (Y Castell ac Uplands) 2020. Bydd amodau diwygiedig ar gyfer trwyddedau'n cael eu cyhoeddi o 14 Chwefror 2026. Dyma'r prif newidiadau -

  • Amod newydd sy'n nodi bod yn rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodion, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir i'w defnyddio gan y meddianwyr yn gweithio'n iawn ac yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, diogel a llawn.
  • Ychwanegu amod penodol sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni. 
  • Diwygiwyd gofyniad ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw larwm tân, system synhwyro tân a system atal tân (os yw'n cael ei gosod) i fod yn unol â BS5839 Rhan 6.
  • Diwygiwyd amod sy'n berthnasol i larymau carbon monocsid gan fod angen darparu larymau CO ym mhob ystafell (nid ystafelloedd byw yn unig) lle mae offer llosgi tanwydd.
  • Adolygwyd amodau sy'n ymwneud â threfniadau gwastraff i fod yn fwy penodol ac i ofyn am le storio mwy helaeth ar gyfer gwastraff wedi'i ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

Y tu allan i wardiau'r Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau, mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i bob HMO y mae ganddo dri llawr neu fwy a phum preswylydd neu fwy.

Ni fydd y newidiadau a gyflwynir fis Chwefror nesaf yn berthnasol yn ôl-weithredol i drwyddedau HMO presennol felly os oes gennych drwydded HMO ar gyfer eiddo yn Abertawe ar hyn o bryd, ni fydd unrhyw newidiadau i'r drwydded honno nes i chi wneud cais am drwydded ar ôl 14 Chwefror 2026.

Caiff y strwythur prisio'i adolygu ond nid yw'r ffioedd presennol wedi'u newid eto.

Os ydych yn rheoli HMO trwyddedig, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r newidiadau.

Gallwch ddarllen adroddiad y cyngor a'r polisi newydd

Rhannwch yr wybodaeth hon ag unrhyw ffrindiau neu gydweithwyr ag eiddo HMO yn Abertawe. Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu â'r tîm HMO yng Nghyngor Abertawe drwy e-bostio HPH@abertawe.gov.uk.

Hysbysiad cyhoeddus o ddynodi ardal ar gyfer trwyddedau tai amlbreswyl ychwanegol

Hysbysir trwy hyn bod Dinas a Sir Abertawe wedi cadarnhau dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol o ran tai amlbreswyl yn Wardiau Etholiadol Y Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2025