Barn preswylwyr yn cael ei cheisio am lwybrau cerdded a beicio newydd ar draws y ddinas
Gall preswylwyr yn Abertawe fynegi barn am lwybrau cerdded a beicio newydd arfaethedig fel rhan o ymgynghoriad newydd ledled y ddinas.
Mae Cyngor Abertawe'n adolygu ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol a gofynnir i breswylwyr gymryd rhan yn yr ymarfer cynnwys y cyhoedd diweddaraf i helpu i lunio dyfodol cerdded, olwyno, a beicio - a adwaenir fel teithio llesol - ar draws y sir.
Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn tynnu sylw at lwybrau cerdded, olwyno a beicio sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llwybrau a gynlluniwyd i'w datblygu a'u gwella yn y dyfodol.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n rhaid i bob cyngor yng Nghymru ddiweddaru ei fapiau yn rheolaidd, a dyma'ch cyfle i helpu i lunio dyfodol teithio llesol yn Abertawe.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn ddogfen strategol bwysig sy'n glasbrint ar gyfer datblygu llwybrau cerdded a beicio yn Abertawe yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
"Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan ac i rannu eu barn am y cynigion ar gyfer llwybrau newydd.
"Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, sy'n caniatáu i ni wella ein rhwydwaith presennol a chynyddu argaeledd llwybrau oddi ar y ffordd diogel i bawb eu defnyddio.
"Dyma gyfle i bawb fynegi barn a rhoi gwybod i ni ym mhle yr hoffent i ni ddatblygu llwybrau newydd."
Mae gan breswylwyr tan 4 Ionawr 2026 i gymryd rhan, a gallant wneud hynny yma https://www.abertawe.gov.uk/arolwgmapteithiollesol
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael ym mhob llyfrgell yn Abertawe.
Mae cyfres o sesiynau galw heibio hefyd wedi cael eu trefnu ac fe'u cynhelir ar draws Abertawe dros yr ychydig wythnosau nesaf.
- Llyfrgell Pen-lan - Dydd Llun 24 Tachwedd, 3:00pm - 5:00pm
- Llyfrgell Ystumllwynarth - Dydd Mawrth 25 Tachwedd, 4:00pm - 6:00pm
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Siop Gwybodaeth dan yr Unto) - Dydd Llun 1 Rhagfyr, 11:00am - 1:00pm
- Llyfrgell Clydach - Dydd Iau 4 Rhagfyr, 9:30am - 11:30am
- Llyfrgell Gorseinon - Dydd Llun 8 Rhagfyr, 9:30am - 11:30am
· Marchnad Abertawe - Dydd Iau 11 Rhagfyr, 12:00pm - 2:00pm
