Toglo gwelededd dewislen symudol

Map Rhwydwaith Teithio Llesol Abertawe - dweud eich dweud

Rydym yn adolygu ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol - a hoffem glywed eich barn.

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn tynnu sylw at lwybrau cerdded, olwyno a beicio sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llwybrau a gynlluniwyd i'w datblygu a'u gwella yn y dyfodol.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n rhaid i bob cyngor yng Nghymru ddiweddaru ei fapiau yn rheolaidd, a dyma'ch cyfle i helpu i lunio dyfodol teithio llesol yn Abertawe.

Sut i ddweud eich dweud

Ar-lein

Gallwch archwilio'r llwybrau arfaethedig a rhannu'ch barn drwy ein harolwg ar-lein:

Cliciwch yma i ddweud eich dweud ar-lein nawr (drwy FapDataCymru)

Dyddiad cau: 11.59pm, 4 Ionawr 2026

Copi papur o'r arolwg

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael ym mhob llyfrgell: Llyfrgelloedd yn Abertawe

Digwyddiadau Galw Heibio

Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau wyneb yn wyneb ar draws Abertawe. Dewch draw i sgwrsio â ni, gofyn cwestiynau a rhannu eich barn yn bersonol.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) a sut mae'n cefnogi teithio iachach a gwyrddach ledled Cymru: Cerdded a beicio (Llywodraeth Cymru)

 

Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch am yr arolwg hwn neu os hoffech dderbyn yr holiadur mewn unrhyw fformat arall (e.e. print bras), e-bostiwch teithiollesol@abertawe.gov.uk

Active Travel partnership logo strip.

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Tachwedd 2025