Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Siop arlein

Beth sydd ar gael i'w brynu o'r Gwasanaeth Archifau arlein.

Ydych chi'n chwilio am yr anrheg arbennig yna i rywun sy'n caru hanes lleol? Ymwelwch â'n siop arlein i weld beth sydd ar gael.

Yma yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morganwg mae gyda ni ddewisiad o lyfrau, cardiau a mapiau ar werth lle byddwch yn dod ar draws y peth perffaith.

Three Nights Blitz
Ein cyhoeddiad dan sylw yw The Three Nights’ Blitz (Yn agor ffenestr newydd) gan Dr John Alban, sy wedi cael ei ail-argraffu.

Cafodd ei gyhoeddi'n wreiddiol ym 1994 ac mae wedi bod allan o brint ers blynyddoedd, felly dyma siawns o'r diwedd i brynnu copi o'r llyfr hwn. Roedd y Blits Tair Noson yn gyfres o ymosodiadau awyr arswydus a gymerodd rhan yn ystod 19, 20 a 21 Chwefror 1941. Gadaelodd canol Abertawe yn adfeilion i gyd a chafodd ei ddisgrifio fel 'y digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar Abertawe'. Mae'r llyfr hwn yn defnyddio ffynhonellau dogfennol cydamserol i ddweud y stori o'r ddwy ochr, gan ddefnyddio ffynhonellau'r Luftwaffe yn ogystal â'r rhai Phrydeinig. 

Rebuilding Swansea
Yn ôl yn yr hydref fe lansion ni A New and Even Better Abertawe: Rebuilding Swansea 1941-1961 (Yn agor ffenestr newydd) gan Dinah Evans.

Yn y llyfr yma, mae Dinah yn archwilio sut cafodd Abertawe ei hailadeiladu ar ôl i ganol y dref gael ei dinistrio yn y Blits yn erbyn yr Ail Ryfel Byd.  Mewn sens, mae'n ddilyniant i The 'Three Nights' Blitz'  oherwydd mae'n trafod canlyniad dinistriad canol y dref. Llyfr craff am adeg allweddol yn hanes y ddinas.

Porwch y dolenni isod i weld beth arall sydd ar gael yn ein siop arlein...

Books

Llyfrau

Mae llawer ar gael yma am rywun â diddordeb mewn hanes ardal Gorllewin Morgannwg. Mae llyfrau am Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Gŵyr a llawer mwy. 

Rhagor o wybodaeth. (Yn agor ffenestr newydd)

Ymwelwch â ni yn y Ganolfan Ddinesig i weld ein holl dewisiad ni o lyfrau ar werth. Dyma manylion am ble i ddod o hyd i ni.

Hen fapiau

Rydym yn gwerthu atgynhyrchiadau o fapiau cyntaf yr Arolwg Ordnans o rai o'r prif drefi a phentrefi yn ein hardal.

Rydym hefyd wedi creu tri CD rhyngweithiol yn cynnwys rhai mapiau swynol o Abertawe a Chastell-nedd yn Oes Fictoria.

Rhagor o wybodaeth. (Yn agor ffenestr newydd)

Map CDs
Cards

Cardiau

Mae ein holl cardiau ni yn atgynhyrchiadau o luniau hanesyddol o'r ardal. Maen nhw'n wych i'w hanfon fel cardiau'r Nadolig ac maen nhw'n edrych yr un mor dda mewn ffrâm ar eich pared.

Os dewch i ymweld â ni, byddwch yn darganfod mwy o argraffiadau ac engrafiadau i'w prynnu.

Rhagor o wybodaeth. (Yn agor ffenestr newydd)

 

Close Dewis iaith