Ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg
Gwybodaeth am ein lleoliad , oriau agor a sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.
 
		Rydym yn symud
Mae canolfan gwasanaethau cymunedol amlbwrpas newydd o'r enw Y Storfa yn cael ei datblygu yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen, Abertawe a bydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morganwg yn symud yno dros y misoedd nesaf.
Bydd y rhan gyntaf o'r symudiad yn digwydd ym mis Rhagfyr 2025, pan fydd ein gwasanaeth yn y Ganolfan Ddinesig yn symud i'n hystafell chwilio newydd ar lawr cyntaf adeilad y Storfa. Bydd y casgliadau archif yn cael eu symud yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2026.
Byddwn yn dal i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd drwy gydol y broses gymhleth hon, ond bydd mynediad i'r casgliadau yn gyfyngedig a bydd yn hanfodol cysylltu â ni ymlaen llaw i drafod eich gofynion ac archebu unrhyw ddogfennau yr hoffech chi eu gweld neu archebu copïau i'w anfon yn ddigidol. E-bostiwch ni am ragor o wybodaeth.
Ceir mwy o wybodaeth am brosiect Y Storfa yma
Dyma ein horiau agor:
Dydd Mawrth: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Mercher: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Iau: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Gwener: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Cofrestru am docyn darllenydd:
Mae ein hen system docynnau ddarllenydd wedi dod i ben a bydd angen i chi wneud cais am docyn darllenydd newydd, sef y Cerdyn Archifau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i wasanaethau archifau eraill ledled y wlad. Gallwch chi wneud cais ar-lein a chasglu'ch tocyn pan ymwelwch: darganfyddwch sut mae'n gweithio..
Ydych chi'n chwilio am edrychiad cyflym neu gopi o fap neu ddogfen?
Am dâl cymedrol, gallwn ni'ch helpu heb angen ymweliad. E-bostiwch ni gyda'ch ymholiad a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu chi.
Ble rydym ni:
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Canolfan Ddinesig,
Heol Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN
Sut i gyrraedd yno:
Mae gorsaf y rheilffordd tua 15 i 20 munud i ffwrdd ar droed. Mae'r orsaf fysus tua 5 i 10 munud i ffwrdd ar droed; mae'r ddwy ar y map. Mae gan y ddwy safle tacsis os nad ydych am gerdded i'r Ganolfan Ddinesig, a hefyd ceir bysus o orsaf y rheilffordd i ganol y ddinas. Os ydych yn dod mewn car, dilynwch yr arwyddion i Ganolfan Ddinesig o Heol Ystumllwynarth. Mae lle parcio i ymwelwyr ar ochr ddwyreiniol (h.y. y Marina) yr adeilad. Mae ardal barcio ar wahân yno hefyd ar gyfer ymwelwyr anabl, a'r lle parcio ar y lefel uwch yn fynediad gwastad o amgylch yr adeilad i'r fynedfa flaen.
Parcio, bwyta a lletya dros nos:
Mae cludiant cyhoeddus da i'r Ganolfan Ddinesig gyda nifer o fannau parcio i ymwelwyr. Mae parcio ym Maes Parcio'r Dwyrain yn ddi-dâl am ddwy awr (tri i ddeiliaid bathodynnau glas) a chodir tal am ynrhyw amser dros hynny. Ceir gwybodaeth am daliadau parcio dan "Y Ganolfan Ddinesig (Maes Parcio'r Dwyrain)" yma. Taliadau parcio ceir Mae mwy o le i barcio ar gael ym meysydd parcio cyfagos y Glannau a Stryd Paxton.
Ceir caffi lle gallwch gael seibiant o'ch gwaith ymchwil i edmygu'r golygfeydd o'r môr. Mae toiledau cyhoeddus (gan gynnwys toiled i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn) oddi ar y prif gyntedd.
Dilynwch y dolennau isod am ragor o wybodaeth i helpu chi i gynllunio'ch ymweliad.

 
			 
			 
			