Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwybodaeth am ein lleoliad , oriau agor a sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.

Front view of Swansea Civic Centre

Dyma ein horiau agor:

Dydd Mawrth: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Mercher: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Iau: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Gwener: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Hefyd, trwy apwyntiad yn unig, nos Fawrth, 5-7yh: mae angen cadarnhau apwyntiad erbyn y dydd Gwener blaenorol.

Awgrymir archebu ymlaen llaw:

Argymhellir archebu ymlaen llaw ac archebu'r deg dogfen gyntaf rydych chi am eu gweld ymlaen llaw hefyd. Gellir gofyn am ragor o ddogfennau yn ystod eich ymweliad. E-bostiwch ni am ragor o wybodaeth.

Gallwch chwilio'n catalogau arlein i ddod o hyd i gyfeirnodau'r dogfennau y mae eu hangen arnoch. Os nad ydych yn siŵr ynghylch yr hyn y bydd angen i chi ei archwilio, anfonwch e-bost atom i ddweud wrthym am yr hyn rydych am ei ddarganfod, a byddwn yn eich cynghori.

Mae tocyn darllenwyr newydd:

Mae ein hen system docynnau ddarllenydd wedi dod i ben a bydd angen i chi wneud cais am docyn darllenydd newydd, sef y Cerdyn Archifau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i wasanaethau archifau eraill ledled y wlad. Gallwch chi wneud cais ar-lein a chasglu'ch tocyn pan ymwelwch: darganfyddwch sut mae'n gweithio..

Pellter cymdeithasol:

Nid yw gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol bellach, ond os y gallwch chi, rydym yn eich cynghori i wysgo un wrth fynd i mewn ac allan o'r ystafell ymchwilio ac wrth siarad i aelodau staff. Nodwch, oherwydd yr angen i sicrhau pellter cymdeithasol, ni allwn gynnig cymorth un i un wrth ddefnyddio cyfrifiadur.

Ydych chi'n chwilio am edrychiad cyflym neu gopi o fap neu ddogfen?

Am dâl cymedrol, gallwn ni'ch helpu heb angen ymweliad. E-bostiwch ni gyda'ch ymholiad a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu chi.

Ble rydym ni:

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Canolfan Ddinesig,
Heol Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN

Sut i gyrraedd yno:

Mae gorsaf y rheilffordd tua 15 i 20 munud i ffwrdd ar droed. Mae'r orsaf fysus tua 5 i 10 munud i ffwrdd ar droed; mae'r ddwy ar y map. Mae gan y ddwy safle tacsis os nad ydych am gerdded i'r Ganolfan Ddinesig, a hefyd ceir bysus o orsaf y rheilffordd i ganol y ddinas. Os ydych yn dod mewn car, dilynwch yr arwyddion i Ganolfan Ddinesig o Heol Ystumllwynarth. Mae lle parcio i ymwelwyr ar ochr ddwyreiniol (h.y. y Marina) yr adeilad. Mae ardal barcio ar wahân yno hefyd ar gyfer ymwelwyr anabl, a'r lle parcio ar y lefel uwch yn fynediad gwastad o amgylch yr adeilad i'r fynedfa flaen.

Parcio, bwyta a lletya dros nos:

Mae cludiant cyhoeddus da i'r Ganolfan Ddinesig gyda nifer o fannau parcio i ymwelwyr. Mae parcio ym Maes Parcio'r Dwyrain yn ddi-dâl am ddwy awr (tri i ddeiliaid bathodynnau glas) a chodir tal am ynrhyw amser dros hynny. Ceir gwybodaeth am daliadau parcio dan "Y Ganolfan Ddinesig (Maes Parcio'r Dwyrain)" yma. Taliadau parcio ceir Mae mwy o le i barcio ar gael ym meysydd parcio cyfagos y Glannau a Stryd Paxton.

Ceir caffi lle gallwch gael seibiant o'ch gwaith ymchwil i edmygu'r golygfeydd o'r môr. Mae toiledau cyhoeddus (gan gynnwys toiled i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn) a ffonau oddi ar y prif gyntedd. 

Gall Canolfan Croeso Abertawe eich helpu chi ddod o hyd i lety os oes angen i chi aros dros nos yn Abertawe. Am fwy o wybodaeth, gwelwch www.croesobaeabertawe.com (Yn agor ffenestr newydd).

Dilynwch y dolennau isod am ragor o wybodaeth i helpu chi i gynllunio'ch ymweliad.

Defnyddio'r ystafell ymchwil

Gwybodaeth am beth i ddisgwyl pan ymwelwch â'r archifau.

Gwybodaeth Hygyrchedd

Gwybodaeth pwysig i chi wybod amdano cyn i chi ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg.

Tocyn darllenydd

Sut i gael cerdyn archifau.

Rheoliadau'r Ystafell Ymchwilio

Gofynnir i'n holl ymchwilwyr i ddilyn y rheolau hyn. Maen nhw i sicrhau diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal.

Arweiniad trin dogfennau

Rydym am i chi fwynhau ein casgliadau archifau a'n helpu i ofalu amdanynt a'u cynnal.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024