Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pa waith ydy'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd?

Mae nifer o ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Craffu yn gweithio arno nawr ac am y flwyddyn i ddod.

Rydym yn rheoli cylchlythyr misol i'ch helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith diweddaraf. Gallwch danysgrifio i dderbyn y diweddariad drwy e-bost. Rydym hefyd yn ysgrifennu blog am ein gwaith.

Cyhoeddir agenda Pwyllgor y Rhaglen Graffu cyn pob cyfarfod. Mae'r rhain yn cynnwys adroddiad cynnydd ar yr holl weithgareddau craffu ac amserlen cyfarfodydd yn y dyfodol.

Gwnaethom hefyd lunio rhaglen waith flynyddol. Mae hwn yn nodi'r pynciau a drafodir gan y Cynghorwyr Craffu bob blwyddyn.

Rhaglen waith Craffu gytunedig 2022-2023

Panel ymchwilio newydd

Craffu manwl â therfyn amser - chwe mis

1. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cylch gorchwyl/cwestiynau allweddol i'w cytuno gan y panel, ond gallent ganolbwyntio ar effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau; edrych ar ffactorau y tu ôl i ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol; pwerau ac adnoddau; adrodd ac ymateb; ymagweddau cyfredol; arfer da mewn mannau eraill; rôl aelodau etholedig etc

Pwnc wrth gefn/ amgen

2. Cam-drin domestig

Cylch gorchwyl/cwestiynau allweddol i'w cytuno - ond byddai'n ymwneud ag ansawdd y gefnogaeth i ddioddefwyr a'r hyn y gellid ei wneud yn well, cymryd tystiolaeth fewnol ac allanol.

Mynd ar drywydd ymholiadau blaenorol

1. Caffael

Gweithforaru Newydd

Craffu bras/ cyfarfodydd untro

1. Diogelwch ffyrdd

Gan alluogi holi manwl a thrafodaethau ar fannau problemus; gweithio i wella diogelwch; mesurau ataliol; dulliau rheoli cyflymder - defnyddio arwyddion/twmpathau/camerâu; terfynau 20mya newydd arfaethedig; cyflwr ffyrdd; diogelwch beicwyr a cherddwyr; gweithio mewn partneriaeth, etc.

2. Cydgynhyrchu

Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar ddatblygiad cyd-gynhyrchu yn y cyngor a chynnydd, gan helpu i wella ymwneud ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid a'r cyhoedd wrth lunio a chyflwyno gwasanaethau ac wrth wneud penderfyniadau, etc.

3. Dinas Iach

Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth i archwilio'r Bartneriaeth Dinas Iach, gweithgareddau a llwyddiannau allweddol, gwaith mewn perthynas â hyrwyddo iechyd yn enwedig gweithgareddau corfforol, gan gynnwys darparu chwaraeon awyr a gored a gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc, etc.

Cyswllt cwsmeriaid

Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar brofiad defnyddwyr wrth gysylltu â'r cyngor/cael mynediad at wasanaethau boed hynny dros y ffôn neu ar-lein/drwy ddulliau digidol; darpariaeth ar gyfer cyswllt all-lein ac ar-lein; effeithiolrwydd Canolfan Gyswllt y cyngor; camau gweithredu cyfredol i wella cynhwysiad/mynediad digidol; ansawdd y wefan etc.

Rhestr wrth gefn

Teithio Llesol

Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar gynlluniau a chanlyniadau Teithio Llesol y cyngor; datblygiadau cyfredol ac yn y dyfodol; gwelliannau i ymgynghoriad cymunedol; pa mor dda yr ydym yn bodloni rhwymedigaethau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru; defnydd - effaith ar niferoedd sy'n beicio/cerdded; a materion perthnasol

Hiliaeth mewn ysgolion

Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar hyd a lled y mater; sut mae ysgolion yn delio â digwyddiadau hiliol a ddrwgdybir; adrodd am drefniadau, cyfraddau etc.

Paneli perfformiad

Perfformiad manwl parhaus/ monitro a herio ariannol

1. Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Misol

2. Addysg

Misol

3. Gwasanaethau i Oedolion

Bob 6 wythnos

4. Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Bob 6 wythnos

5. Datblygu ac Adfywio

Bob deufis

6. Newid yn yr Hinsawdd a Natur

Bob deufis.

Materion penodol i'w hystyried gan gynnwys o fewn cynlluniau gwaith ehangach y panel:

  • Gwella Gwasanaethau a Chyllid
    • Cynllun Corfforaethol
    • Craffu ar gynigion y gyllideb
    • Rheoli perfformiad yn gyffredinol
    • Safon Ansawdd Tai Cymru
    • Y Gwasanaethau Cynllunio
    • Gwastraff a Glanhau Strydoedd
    • Ailgylchu gwastraff busnes
  • Addysg
    • Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
    • Arolygiad dilynol ar ôl arolygiad o'r adran Addysg gan Estyn
    • Addysg o Safon (AoS)/ Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
    • Y cwricwlwm newydd i ysgolion
    • Dysgu yn yr Awyr Agored mewn ysgolion cynradd
    • Darpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion
  • Gwasanaethau i Oedolion
    • Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
    • Y berthynas rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
    • Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
    • Llety â chymorth i bobl ifanc
    • Fframwaith Sicrhau Ansawdd
  • Datblygiad ac Adfywio
    • Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
    • Prosiectau'r Fargen Ddinesig sy'n benodol i Abertawe
    • Manwerthu/ datblygiad yng nghanol y ddinas
    • Tyrrau tai newydd (e.e. llety myfyrwyr)
    • Adeiladau Hanesyddol/Rhestredig
    • Datblygiad ac isadeiledd/gwasanaethau ategol SA1
  • Newid yn yr Hinsawdd a Natur
    • Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/amcanion/ymrwymiadau polisi corfforaethol
    • Cynnydd yn erbyn Sero Net 2030
    • Y defnydd o lyffosad
    • Llygredd aer
    • Mabwysiadu cerbydau gwyrdd a darpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd/mewn mannau preswyl
    • Llifogydd/ Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Materion ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Rheolaeth gyffredinol y rhaglen waith; trafodaeth am amrywiaeth eang o faterion gwasanaeth

  • Adroddiadau blynyddol penodol
    • Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc
    • Diogelu Corfforaethol
    • Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol - Trechu Tlodi
  • Sesiwn/ Sesiynau Holi ac Ateb gyda'r Arweinydd
    • 'Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd' - Cynllun Adfer/Trawsnewid
    • Ymrwymiadau polisi/ Blaenoriaethau'r cyngor
  • Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelodau eraill o'r Cabinet (materion i'w trafod)
    • Archifau/Hwb Cymunedol
    • Tipio anghyfreithlon
    • Digartrefedd
    • Tai Amlfeddiannaeth
    • Parciau
    • Tyfu Cymunedol
    • Grwpiau cymunedol, ymgysylltu a datblygiad
  • Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Trosedd ac Anrhefn (Diogelwch Cymunedol)
  • Edrych ar yr hyn a wnaed gan Weithgorau Blaenorol
    • Gwasanaethau Bysus
    • Y Gweithlu (gan gynnwys trafodaeth ar Strategaeth Datblygu'r Gweithlu)

Craffu ar y Cyd/Rhanbarthol

  • Partneriaeth (Gwella Addysg/Ysgolion - Grŵp Craffu ar y cyd Cynghorwyr)
  • Y Fargen Ddinesig (Datblygiad/Adfywio - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe)
  • Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru (Cynllunio defnydd tir; Trafnidiaeth ranbarthol; Lles Economaidd - Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu)

Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb

Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried 'sut y gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)'.
Close Dewis iaith