Cwestiynau cyffredin am daliadau tai dewisol
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am daliadau tai dewisol (TTD).
Sawl cais a wnaed i'r cyngor a faint oedd yn aflwyddiannus?
Cyfanswm nifer y ceisiadau am TTD | Nifer y ceisiadau aflwyddiannus | |
---|---|---|
2022/23 | 2336 | 775 |
2021/22 | 2033 | 591 |
2020/21 | 1862 | 552 |
2019/20 | 2490 | 897 |
2018/19 | 3113 | 1183 |
Ar gyfartaledd, pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu cais am TTD, o dderbyn y cais i roi'r penderfyniad terfynol i'r ymgeisydd?
O leiaf 12 wythnos gan ddibynnu ar yr wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'r cais.
Ydych chi'n cynnwys Lwfans Byw i'r Anabl rhywun fel rhan o'i incwm aelwyd?
Nac ydym
Pa ffigur y mae'r llywodraeth wedi'i roi ar gyfer eich cronfa TTD ym mhob blwyddyn ariannol?
2023/24 - £395,685.00 gan Lywodraeth Cymru (darparwyd £360,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)
2022/23 - £395,685.00 gan Lywodraeth Cymru (darparwyd £436,128 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)
2021/22 - £558,279.00 gan Lywodraeth Cymru (darparwyd £198,518 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd)
2020/21 - £635,429.00
2019/20 - £585,574.00
A wnaethoch chi wario mwy na dyraniad TTD y llywodraeth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? A wnaeth eich cyngor ychwanegu at ddyraniad y llywodraeth?
Do, gwariwyd mwy na'r gronfa ond nid oeddem wedi ychwanegu ati, darparwyd y gwariant ychwanegol o £436,128 gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw'r cyfnod byrraf rydych wedi dyrannu TTD ar ei gyfer?
Diwrnod ar gyfer costau symud celfi. Gallai budd-dal ar gyfer 2 gartref cyn preswylio hefyd fod yn ddiwrnod.
Ydych chi'n cyfyngu ar nifer y dyraniadau TTD y gall ymgeisydd eu derbyn?
Ni chaiff unrhyw gyfyngiadau eu gwneud.