Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw Cynllun Atgyfeirio Cymru ar gyfer Ymafer (NERS)?

Nod y cynllun yw annog unigolion sy'n anweithgar ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu.

NERS (IS)

Nod y cynllun yw annog unigolion nad ydynt yn actif ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu.

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) a gynigir gan Gyngor Abertawe yn rhan o NERS Cymru: cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i safoni cyfleoedd i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff ar draws yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Mae'r cynllun atgyfeirio yn para rhwng 4 ac 16 wythnos, gan ddibynnu ar y rheswm dros atgyfeirio rhywun, ac mae'n cael ei ddarparu yn ein canolfannau hamdden partner (Llandeilo Ferwallt, Penyrheol, Pen-lan, Treforys, Cefn Hengoed, yr LC) yn ogystal â chanolfannau cymunedol penodol ledled Abertawe.

Bydd cleientiaid sy'n cael eu hatgyfeirio i'r cynllun yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys sesiynau mewn cadair, dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau yn y dŵr ac yn y gampfa. Mae'r dosbarthiadau hyn yn para am hyd at awr (yn fras) ac fe'u darperir ar gyfer grwpiau bach o bobl.

Ar ôl i gleientiaid gwblhau eu rhaglen, byddant yn cael yr opsiwn i barhau â'u rhaglen bersonol ar gyfradd ostyngedig gyda'n partneriaid Freedom Leisure.

Pris pob dosbarth ymarfer corff dan NERS yw £2.50 y sesiwn.

Buddion y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Mae'r holl sesiynau'n rhai grŵp gyda phobl sydd mewn cyflwr a lefelau ffitrwydd tebyg ac fe'u cynhelir gan aelodau o staff cymwys mewn amgylchedd cyfeillgar.

Mae nifer o fuddion o gymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys:

  • dod yn fwy heini
  • gwella ffordd o fyw
  • rheoli pwysau
  • gwell iechyd meddwl 
  • gwell system resbiradol
  • gwell cylchrediad 
  • gwella ystum symudedd a llai o boen cymalau
  • gwella cryfder a ffyrfder cyhyrau
  • rhyngweithio cymdeithasol a chwrdd â phobl newydd
  • datblygu hyder
  • ansawdd bywyd
  • gwella lles corfforol a seicolegol
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2024