Cymhorthion a Chyfarpar
Mae amrywiaeth eang o gymhorthion a chyfarpar ar gael a all wneud bywyd yn haws i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd, neu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas.
Mae sawl siop cymhorthion symudedd yn Abertawe lle gallwch brynu unrhyw beth, o sgwter symudedd neu lifft grisiau i gyllyll a ffyrc gafael hawdd a sliperi sy'n cau â felcro. Mae mantais wrth brynu'n lleol oherwydd cewch gyfle i roi cynnig ar bethau, ac efallai gael cyngor gan staff profiadol.
Os yw cyrraedd y siopau'n anodd, mae gwefannau ar-lein hefyd sy'n gwerthu cymhorthion a chyfarpar.
Mae elusennau sy'n ymwneud ag iechyd, megis yr RNIBYn agor mewn ffenest newydd, Action on Hearing LossYn agor mewn ffenest newydd a'r Gymdeithas StrôcYn agor mewn ffenest newydd, hefyd yn gwerthu cyfarpar a allai fod yn ddefnyddiol iawn i bobl â'r cyflwr y maen nhw'n ei gefnogi.
Mae Disabled Living FoundationYn agor mewn ffenest newydd yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cyngor diduedd, gwybodaeth a hyfforddiant ar gymhorthion byw dyddiol. Mae eu tudalennau Ask SaraYn agor mewn ffenest newydd yn darparu cyngor, arweiniad a gwybodaeth am gynnyrch sy'n gallu helpu gyda'ch iechyd, eich cartref a'ch gweithgareddau dyddiol.
Mae Focus on DisabilityYn agor mewn ffenest newydd yn adnodd ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth i oedolion a phlant y mae ganddynt anabledd, anghenion gofal, salwch tymor hir neu broblem symudedd. Mae eu wefan yn cynnwys siop ar-lein yn gwerthu cymhorthion ac offer ar gyfer pobl anabl.
Larwm Cymunedol
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gwasanaeth Larwm Cymunedol (Lifeline) sy'n darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hyn ac anabl.
Ffôn: 01792 648999
Cymorth Tymor Byr
Os ydych yn derbyn cymorth ailalluogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae ein therapyddion galwedigaethol cymunedol yn ymweld â chi i edrych ar ffyrdd o'ch helpu i fod yn fwy annibynnol, a gallant ddarparu cyfarpar i helpu gyda hyn.
Weithiau, bydd angen cyfarpar am gyfnod byr yn unig wrth i rywun wella wedi salwch neu ddamwain. Mae'r Groes Goch BrydeinigYn agor mewn ffenest newydd yn gallu darparu peth cyfarpar symudedd i'w logi dros dymor byr (6-12 wythnos). Maent hefyd yn gwerthu amrywiaeth o gyfarpar.
Ffôn: 01554 749374 (Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00 - 1.00)
Colli Golwg neu Clyw
Mae ein Tîm y Gwasanaethau Synhwyraidd yn gallu rhoi cyngor ar gyfarpar arbenigol i gynorthwyo pobl â nam ar y golwg neu'r clyw. Efallai byddant hefyd yn gallu trefnu i chi ymweld â Chanolfan Adnoddau Bro Tawe lle gall pobl â nam synhwyraidd cyfle i dreialu rhai mathau cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.
Ffôn: 01792 315969