Chwilio'r wefan
English

Casgliad yr Oriel a chymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian

Wedi'i sefydlu ym 1911, mae'r oriel yn cynnig amrywiaeth eang o gelf weledol o gymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian (1835 -1919) i gelf yr ugeinfed ganrif.

Thumbnail: Gallery Collection and Richard Glynn Vivian's original bequest

Ym 1855, etifeddodd Richard Glynn Vivian ei ran yng Ngwaith Copr adnabyddus ei deulu yn yr Hafod. Teithiodd y byd yn casglu celf drwy gydol ei fywyd ac yn ei henaint, penderfynodd roi ei gasgliad i bobl Abertawe i'w fwynhau, gan sicrhau yr adeiladwyd oriel i gadw'r darnau o waith celf. Mae'n bleser gan Ddinas a Sir Abertawe etifeddu'r gymynrodd unigryw hon, ynghyd â'r oriel sy'n ffynnu hyd heddiw.

Mae cymynrodd Richard Glynn Vivian yn cynnwys gwaith hen feistri Prydain ac Ewrop, ynghyd ag artistiaid nodedig megis Richard Wilson (1713 - 1782) a Penny Williams (1798 - 1885). Mae llawer o'r paentiadau olew yn dyddio'n ôl o'r unfed ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chaiff llawer o'r rhain eu harddangos pan fydd yr oriel yn ailagor ar ôl y gwaith adnewyddu. Mae'r rhain yn cynnwys portread R. E. Pfeninger o Richard Glynn Vivian, paentiadau crefyddol megis Ecce Homo wedi'i briodoli i Correggio (c.1489-1534), yn ogystal â gwaith gan Gustave Doré (1832-1883), a brynwyd yn arwerthiant stiwdio'r artist ym Mharis ym 1885.

Roedd François Depeaux (1853-1920), yn gasglwr paentiadau argraffiadol o fri ac yn noddwr Alfred Sisley (1839-1899), yn dwlu ar Abertawe, lle sefydlodd ei fusnes mwyngloddio a rhoddodd grŵp pwysig o baentiadau argraffiadol gan artistiaid o Rouen, lle'r oedd yn byw. Cafwyd anrhegion sylweddol eraill ers hynny, ac yn fwy diweddar rhoddodd y pensaer, Syr Alex Gordon (1917-1999), ei gasgliad personol cain i'r oriel, gyda phaentiadau gan Ben Nicholson, Barbara Hepworth, John Piper a Kyffin Williams ymhlith eraill.

Cynrychiolir yr ugeinfed ganrif yn dda iawn gyda phaentiad modern gan William Grant Murray (1877 - 1970), curadur cyntaf yr oriel a Phennaeth Ysgol Gelf Abertawe. Cafodd ei annog yn sylweddol gan y noddwr celf lleol, Winifred Coombe Tenant (1874 - 1956), ac felly sefydlodd yr oriel draddodiad o gefnogi arfer celf modern yn fuan. Mae'r casgliad yn cynnwys paentiadau arwyddocaol gan artistiaid lleol o Gymru megis Evan Walters, yn ogystal â Gwen John, Augustus John a J. D. Innes; derbyniwyd darnau'n ddiweddarach gan Paul Nash, Ivon Hitchens a Stanley Spencer, ynghyd â Cedric Morris, Alfred Janes a Ceri Richards. Yn y 1930au, daeth Paneli Ymerodraeth Prydain gan Syr Frank Brangwyn i Abertawe, y gellir eu gweld yn Neuadd Brangwyn y ddinas. Cefnogir yr oriel o hyd gan Gymdeithas Celf Fodern Llundain a Chymru sydd, ynghyd â Chyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian, wedi rhoi llawer o baentiadau pwysig gan artistiaid megis Mark Gertler, Wyndham Lewis a Josef Herman.

Cynrychiolir artistiaid o Gymru'n helaeth gan baentiadau ddiwedd yr ugeinfed ganrif gan Terry Setch, Harry Holland, Glyn Jones a Sue Williams, a gwaith diweddar gan Shani Rhys-James, Richard Monahan, Brendan Stuart Burns a Merlin Hames.

Mae'r oriel hefyd yn gartref i gasgliadau celf gymhwysol ragorol o Ewrop a'r Dwyrain Pell drwy gymynrodd Vivian, yn ogystal â'n casgliad arobryn o grochenwaith a phorslen Abertawe.

Mae'r casgliad wedi'i wreiddio'n ddwfn yng nghof ein cymuned leol ac mae'n parhau i fod yn rhan actif o'n diwylliant a'n treftadaeth heddiw.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM