Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyfleusterau hurio yn y parc

Mae Tŷ'r Blodau ym Mharc Singleton ar gael i'w hurio'n breifat at amrywiaeth o ddibenion gwahanol.

Os ydych yn rhan o grŵp cymunedol lleol, corff addysgol, elusen neu sefydliad preifat, mae'n siŵr y bydd ein lleoliad cwbl gyfoes, tra deniadol yn diwallu'ch holl anghenion:

  • Cyfarfodydd ar gyfer grwpiau cymunedol, sefydliadau preifat a chyrff cyhoeddus
  • Darlithoedd, sgyrsiau, cyflwyniadau ar sleidiau a gweithdai
  • Digwyddiadau (e.e. dosbarthiadau celf)
  • Arddangosfeydd
  • Partïon pen-blwydd i blant
  • Ffotograffiaeth briodas

Mae lle yn y lleoliad i hyd at 40 o bobl (arddull theatr), mae'n cynnwys cyfleusterau gwneud te a choffi, bwrdd gwyn a thaflunydd ac mae'n cydymffurfio'n llwyr â'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Ceir costau hurio ar gais, ffoniwch:

  • Jeff Richards ar (01792) 298637, neu
  • Kim Gorman ar (01792) 280210
Close Dewis iaith