Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofebion rhyfel yn Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwneud rhestrau anrhydedd a gedwir gennym ar gael ar-lein i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

War Memorials

Rolls of honour right
Yn yr Archifdy mae gennym sawl rhestr anrhydedd a chofebion yn cofnodi enwau'r dynion a merched o'r gymuned leol a cymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent wedi dod o eglwysi, sefydliadau, ysgolion a busnesau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae rhai yn lliwgar ac wedi'u arlunio'n deg; mae eraill yn blaciau pres neu bosteri argraffedig, ac mae eraill yn llyfrau nodiadau, llyfrynnau wedi'u cyhoeddi a ffotograffau.

Rolls of honour left
Er y gallwch ymweld â chofeb mewn pentref neu dref, mae perygl y gallai'r rhai a gedwir gennym ni gael eu hesgeuluso ac y caiff yr wybodaeth ei cholli.

Penderfynom nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf drwy ddigideiddio'r cofebion sydd gennym a mynegeio'r enwau i greu cofeb ddigidol ar y cyd.

Mae rhestr o enwau'r dynion a merched lleol sy'n cael eu coffáu ar y cofebion hyn, â dolennau i luniau o'r gofeb berthnasol a rhagor o wybodaeth amdani. Nid yw pob cofeb yn yr ardal wedi'i chynnwys, ac ni chynhwysir pob tref neu bentref, ond mae'n cynnwys yr holl gofebion a gedwir yn yr Archifdy.

Rydym yn croesawu rhoddion pellach o ddeunydd tebyg.

Y rhestr o Enwau

Gallwch chi ddarllen mwy am y cofebion sy'n rhan o'r prosiect hwn yma.