Toglo gwelededd dewislen symudol

Ebenezer, Capel yr Annibynwyr, Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Roedd Ebenezer, Abertawe yn eglwys yr Annibynwyr, a sefydlwyd ym 1804 fel cangen o Gapel Mynyddbach. Lleolir yr adeilad ar Stryd Ebenezer, ychydig oddi ar y Stryd Fawr, ger Gorsaf Abertawe. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd ganddo aelodaeth fawr, wedi'i dynnu'n bennaf o'r strydoedd a'r llysoedd tlawd a oedd o gwmpas y capel, lle'r oedd y Gymraeg yn iaith cartref.

Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yr ardal yn dechrau newid. Roedd llawer o'r hen lysoedd yn cael eu dymchwel a chafodd eu preswylwyr eu hailgartrefu mewn ardaloedd eraill. Hefyd, cafodd cenhadaeth Saesneg ei sefydlu yn Ebenezer yn ddiweddar. Ym 1976 gwerthwyd Ebenezer i eglwys y Bedyddwyr Waunwen ac ymunodd yr aelodaeth â'r rhai yng Nghapel Henrietta Street i greu Ebenezer Newydd. Fodd bynnag, arhosodd y gofeb yn y capel tan yn ddiweddar pan rhoddwyd i'r Gwasanaeth Archifau. Caeodd Ebenezer Newydd yn Henrietta Street yn 2018.

Mae'r gofrestr anrhydedd hon yn cofnodi enwau 120 dyn o Ebenezer a wasanaethodd yn y rhyfel. Amlygir enwau'r deuddeg a fu farw gyda phriflythrennau â llinell ddu. Maint y gofrestr yw 1m x 70 cm. Mae wedi'i llinellu'n gain mewn inc a dyfrlliw ar bapur, gyda ffin ar wahân wedi'i gludo arno. Mae'n bossibl ei fod wedi cael ei arddangos am amser cymharol hir, gan fod y lliwiau wedi pylu mewn mannau, yn enwedig y priflythrennau coch. Cafodd ei chynllunio'n wreiddiol fel un o bâr, ac roedd y llall i'w gweld yng nghenhadaeth Saesneg Ebenezer ac mae hefyd yn rhan o'r adnodd hwn. Mae gan y ddau yr un dyluniad sylfaenol, gyda'r enwau wedi'u rhestru ar sgrôl wedi'i hongian o dan fflam dragwyddol, gyda baneri uwchben yn rhoi enw'r gynulleidfa. Nid yw wedi'i llofnodi, ond wrth droed y rhestr mae '1920 E' ar y chwith ac 'Abertawe' ar y dde.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith