Toglo gwelededd dewislen symudol

Pantygwydr, Capel y Bedyddwyr, Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Mae Eglwys y Bedyddwyr Pantygwydr ar gyffordd Ernald Place a Rhodfa Glanbrydan yn ardal Uplands yn Abertawe. Fe'i sefydlwyd gan Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant ym 1892 fel cenhadaeth ar gyfer y maestrefi newydd ar ben gorllewinol y dref ar y pryd. Capel haearn rhychog ydoedd yn wreiddiol ar Rodfa'r Gors (y'i hailenwyd yn Heol y Brenin Edward yn ddiweddarach), ond fe'i hailadeiladwyd ar y safle presennol ym 1907. Er ei fod wedi'i hen sefydlu erbyn heddiw, ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Pantygwydr yn gapel newydd mewn datblygiad tai newydd ei adeiladu.

Dyluniad amatur yw'r rhestr gwroniaid hon mewn inc a dyfrlliw ar gerdyn, ac mae'n mesur 36 x 47 cm. Er bod rhai elfennau o'r dyluniad wedi'u darlunio'n dda, ychwanegwyd yr enwau mewn llaw anffurfiol. Ymddengys iddi gael ei dechrau ar ddechrau'r rhyfel ac ychwanegwyd ati ar o leiaf ddau achlysur. Yn ddiau, câi'r rhestr ei harddangos mewn ffrâm ar un adeg, ond roedd wedi'i storio o'r golwg yn y capel am flynyddoedd lawer cyn cyrraedd y Gwasanaeth Archifau.

Mae'n rhestru enwau aelodau'r capel a fu'n gwasanaethu yn y rhyfel, ond efallai nad yw'n gynhwysfawr. Cofnodir enwau'r chwe dyn o'r gynulleidfa a fu farw ar wahân ar goflech bres yn yr eglwys. Yn ogystal, tri yn unig ohonynt sy'n ymddangos ar restr y gwroniaid.

Rhagor o wybodaeth am y baneri sy'n ymddangos ar y gofeb hon

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith