Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Sirol Port Talbot (Ysgol Gyfun Glan Afan yn ddiweddarach)

Cyflwyniad y gofeb rhyfel

Gosodwyd maen sylfaen Ysgol Sirol Port Talbot ym 1893 gan Emily Talbot, perchennog yr Ystad Margam, ac agorodd ar 28 Medi 1896. Cynhwysodd y derbyniad cyntaf 44 o fechgyn a 41 o ferched.

Helaethwyd yr Ysgol ym 1938 ac aeth yn Ysgol Ramadeg Glan Afan ym 1951. Yn ddiweddarach, ym 1959, daeth yn Ysgol Technegol Glan Afan, cyn uno gyda nifer o ysgolion eraill ym 1965 i ddod yn Ysgol Gyfun Glan Afan. Caewyd yr ysgol ym mis Gorffennaf 2016 fel rhan o ad-drefniant ysgolion ehangach yng Nghastell-nedd Port Talbot, â'r bwriad i ailddatblygu'r safle, a dyma pam mae cofeb rhyfel yr ysgol wedi'i chynnwys yn y prosiect hwn.

Trosglwyddwyd cofnodion yr ysgol i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae'r ddogfen a ddangosir yma'n drefn y gwasanaeth ar gyfer ymroddiad y gofeb. Mae'n cynnwys rhestr o enwau'r 37 cyn-ddisgyblion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a hefyd ffotograff o'r gofeb ei hun. Dadorchuddiwyd y gofeb ar 10 Tachwedd 1921 gan Syr Thomas Mansel Franklen, Clerc Cyngor Sir Forgannwg a pherthynas bell i Emily Talbot a osododd y garreg sylfaen.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [411KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau