Toglo gwelededd dewislen symudol

Siloh Newydd, Capel yr Annibynwyr, Glandŵr

Rhestr Anrhydedd

Eglwys fawr ar gornel Heol Siloh a Heol Pentre Treharne yn ardal Glandŵr, Abertawe yw Siloh Newydd. Dechreuodd yr achos ym 1822 ac adeiladwyd y capel fel y'i gwelwn heddiw ym 1878. Pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd gwaith mwyndoddi a ddarparai gyflogaeth a ffyniant i Landŵr yn flaenllaw yng Nghwm Tawe Isaf. Roedd gan y capel sawl cant o aelodau bryd hynny, yr oedd llawer ohonynt yn gweithio yn y gwaith.

Caeodd Siloh Newydd yn 2016, ond y flwyddyn ddilynol, trosglwyddwyd adeilad y capel i gynulleidfa newydd o'r enw Eglwys Liberty sydd wedi'i adfer ac sy'n parhau i'w ddefnyddio er mwyn addoli.

Cyn cael ei throsglwyddo i'r Gwasanaeth Archifau, arferai Rhestr y Gwroniaid hongian mewn ffrâm ger prif ddrysau'r capel. Fe'i darlunnir mewn inc a dyfrlliw ar ddarn o gerdyn sy'n mesur 55cm x 76cm, a cheir y llofnod TBR arni. Mae'n cofnodi enwau'r holl ddynion a ymunodd â'r lluoedd arfog, ac mae enwau'r chwe dyn a fu farw yn y rhyfel wedi'u nodi â chroes.

Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, rhoddodd yr eglwys medalau wats poced aur i'r dynion a ymladdodd i gydnabod eu gwasanaeth. Cyflwynwyd yr un hon i Ernest Williams, y mae ei enw'n ymddangos tua diwedd y rhestr gwroniaid.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith