Toglo gwelededd dewislen symudol

Cau ffordd ar gyfer digwyddiad

Os ydych yn bwriadu cynnal parti stryd neu ddigwyddiad tebyg, efallai y byddwch yn penderfynu cau'r ffordd am resymau diogelwch.

Cyn i chi gyflwyno cais i gau ffordd, dylech chi e-bostio Streetworks@swansea.gov.uki drafod eich cynlluniau. Gall cau ffordd fod yn broses hir felly rydym am ei wneud mor hawdd â phosib i chi wneud hyn. Bydd angen i ni wneud yn siŵr y dilynir pob agwedd ar ddiogelwch ynghylch cau ffordd. 

Cau'r ffordd ar gyfer parti stryd

Bydd parti stryd traddodiadol yn cynnwys gosod byrddau a chadeiriau syml ar un ffordd, bydd llai na 500 o bobl yn bresennol ac ni fydd alcohol ar werth nac adloniant megis cerddoriaeth fyw na pherfformiadau. Cynhelir y rhain ar stryd leol fach fel arfer, yn ddelfrydol ar ffordd bengaead, lle na fydd cau'r ffordd yn tarfu ar lif traffig yr ardal. Cyn i chi gyflwyno cais i gau ffordd ar gyfer parti stryd, dylech chi ffonio'r Is-adran Gwaith Stryd ar 01792 843330 i drafod neu, fel arall, gallwch chi e-bostio Streetworks@swansea.gov.uk. Dylech chi gyflwyno'ch cais o leiaf 6 wythnos cyn eich digwyddiad arfaethedigfelly sicrhewch eich bod yn cysylltu â ni ymhell cyn yr amser hwn.

Os hoffech allu gwerthu alcohol neu ddarparu cerddoriaeth fyw neu berfformiadau, yna bydd angen i chi gyflwyno cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro. Dylech chi gyflwyno cais am yr hysbysiad o ddigwyddiad dros dro o leiaf 10 niwrnod cyn y digwyddiad. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £21.00.

Ceir mwy o wybodaeth am gau ffordd ar gyfer parti stryd ar y wefan Street Party (Yn agor ffenestr newydd)

Cau ffordd ar gyfer digwyddiad mwy

Byddai digwyddiad mwy'n cynnwys cau mwy nag un ffordd, byddai mwy na 500 o bobl yn bresennol, caiff alcohol ei werthu neu bydd cerddoriaeth fyw neu berfformiadau a phethau megis toiledau cludadwy, goleuadau, stondinau masnach, arlwywyr neu reidiau ffair hwyl. Mae'r mathau hyn o ddigwyddiadau'n cynnwys llawer mwy o gynllunio felly byddwn am i chi gysylltu â ni o leiaf 12 wythnos ymlaen llaw i drafod eich anghenion.

I gael caniatâd ar gyfer digwyddiadau mwy, bydd yn rhaid i chi hefyd gwblhau un o'r ffurflenni sydd ar gael ar ein tudalen Trefnu digwyddiad yn Abertawe gan ddibynnu a gynhelir eich digwyddiad ar dir y cyngor neu ar dir preifat.

Cofiwch y bydd angen i gerbydau brys allu dod i mewn/mynd allan ar bob adeg, hyd yn oed os yw'r ffordd ar gau.