Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu digwyddiad yn Abertawe

Os ydych yn trefnu digwyddiad i'w gynnal ar dir y cyngor neu dir preifat, rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd i wneud hynny a dilyn y cyngor ar y tudalennau hyn.

Digwyddiadau ar dir y cyngor

Os cynhelir eich digwyddiad ar dir cyngor Abertawe, bydd angen i chi geisio caniatâd. Mae hyn yn wir ni waeth beth yw maint y digwyddiad. Rhaid cael caniatâd cyn hysbysebu'r digwyddiad.

Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau a gynhelir:

  • Mewn parciau neu ar barcdir y cyngor
  • Ar y Rec
  • Ar bromenâd Abertawe
  • Ar un o draethau'r cyngor
  • Ym Mharc yr Amgueddfa
  • Yn Sgwâr Dylan Thomas
  • Yn Sgwâr y Castell
  • Ar unrhyw ran o'r briffordd (ffyrdd a llwybrau troed).

Gall digwyddiadau gynnwys er enghraifft:

  • Digwyddiadau cerddoriaeth
  • Ffeiriau
  • Gwyliau bwyd
  • Rasys ffyrdd
  • Gwyliau cwrw
  • Man masnachu
  • Casglu sbwriel
  • Teithiau cerdded elusennol
  • Rasys hwyl
  • Carnifalau
  • Digwyddiadau cymunedol
  • Lluniau priodas

I'ch helpu i ddewis y dyddiad ar gyfer y digwyddiad ac i osgoi cyd-daro â gweithgarwch sydd eisoes wedi'i drefnu, rydym yn cynnal calendr o ddigwyddiadau presennol a rhai sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw. Cynhelir y calendr gan y tîm Digwyddiadau Arbennig ac er y gwneir pob ymdrech i gadw'r wybodaeth hon mor gywir â phosib, fe'i cynhyrchir fel arweiniad yn unig. Cyfrifoldeb eraill yw gwirio cywirdeb y dyddiadau wrth drefnu digwyddiadau. Mae'r calendr ar gael yn Mae'r calendr ar gael ar-lein.

Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir y cyngor neu fannau agored yn Abertawe Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir y cyngor neu fannau agored yn Abertawe

Digwyddiadau eraill (nid ar dir y cyngor)

Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau eraill a gynhelir o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe (ond nid ar dir y cyngor), dylech hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad a bydd yr holl asiantaethau perthnasol yn y sir yn gwybod am hyn. Mae hyn yn cynnwys timau amrywiol yng Nghyngor Abertawe, y gwasanaethau brys a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Ar gyfer sawl math o ddigwyddiad sy'n cynnwys nifer mawr o bobl, mae llawer o waith trefnu ac mae SAG yn gofyn am chwe mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o ddenu mwy na 500 o bobl.  Mae angen tri mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau lle bydd llai na 500 o bobl yn bresennol. 

Drwy rannu'r hyn sy'n digwydd yn eich digwyddiad, gall y rhanddeiliaid sicrhau bod digon o adnoddau ar gael os bydd digwyddiad lle bydd eu hangen.

Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir preifat yn Abertawe Rhowch wybod i ni am eich digwyddiad arfaethedig ar dir preifat yn Abertawe

Gyda rhai mathau o ddigwyddiadau, efallai bydd angen i chi fynd i un o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch i drafod eich cynigion yn fanylach.

Nid diben y broses Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw rhoi caniatâd ar gyfer eich gweithgarwch ond ei diben yw cefnogi cyflwyno'r digwyddiad yn ddiogel.

 

Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau gydag alcohol, cerddoriaeth a dawnsio

Os bydd angen i'ch digwyddiad gynnwys alcohol, cerddoriaeth a dawnsio neu adloniant awyr agored, efallai y bydd angen trwydded mangre neu Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN). Mae gwybodaeth am y trwyddedau a sut i wneud cais ar gael ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, gallwch gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a fydd yn gallu'ch cynghori ar y math o gais y mae angen i chi ei wneud.

Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir y cyngor neu fannau agored yn Abertawe

Dylech gwblhau'r ffurflen hon os ydych am gynnal digwyddiad ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe, neu os hoffech ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe ar gyfer eich gweithgaredd grŵp/dosbarth.

Rhowch wybod i ni am eich digwyddiad arfaethedig ar dir preifat yn Abertawe

Dylech lenwi'r ffurflen hon er mwyn hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o'ch bwriad i gynnal digwyddiad sy'n cynnwys nifer mawr o bobl ar dir preifat yn Abertawe.
Close Dewis iaith