Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Neuadd y dref wrth y castell

Canolfan ddinesig wrth wraidd y dref

Townhall by the Castle
Mae cyfeiriadau prin at neuadd sir yn Abertawe mor bell yn ôl â 1478, er bod ei lleoliad yn anhysbys. Dechreuwyd yr adeilad cyntaf rydym yn sicr yn gwybod amdano ym 1585, ond efallai na chafodd ei orffen bryd hynny, a pharhaodd gwaith arno tan o leiaf 1737.

Roedd ger y castell, ar yr hyn sydd bellach y man glaswelltog rhwng y castell a Stryd Beili'r Castell. Roedd yn adeilad hir, cul, gyda dau lawr ac yn mesur 18 troedfedd wrth 78. Roedd y prif ystafelloedd ar y llawr uchaf, a chafwyd mynediad iddynt drwy risiau maen ar y pen gogleddol, gyda phorth sylweddol ar y pen uchaf.

Y prif ystafelloedd oedd y neuadd uchaf, a ddefnyddid fel ystafell lys ac ystafell gyngor, a neuadd lai y tu ôl, o'r enw ystafell y Rheithgor Mawr. Dros y talcen tŷ, uwchben y fynedfa y bu tŵr clychau. Roedd y llawr isaf yn cynnwys tŷ pwyso, ystafelloedd storio a charchar y dref. Roedd y cyffion gerllaw.

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Abertawe'n newid ac nid oedd hen neuadd y dref bellach yn weddus at ei diben. Codwyd adeilad newydd yn yr ardal forol. Ar ôl hynny, cafodd ei defnyddio at ddibenion llai cyfareddol, niferus a'i dymchwel ym 1856.

Darllenwch am neuadd y ddinas newydd a adeiladwyd yn yr ardal forol