Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 17 Gorff 2025

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

IRONMAN 70.3 Abertawe wedi dychwelyd i Abertawe

Mwynhaodd miloedd o athletwyr a chefnogwyr ddigwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe llwyddiannus arall wrth i'r digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn amdano ddychwelyd am ei 4edd flwyddyn.

Cymerodd dros 2,500 o athletwyr o bob cwr o'r byd ran, o wledydd fel yr UDA, yr Almaen a Ffrainc, a gwnaeth llawer o athletwyr rasio ar dir cartref. Bloeddiodd y gynulleidfa wrth i Kat Matthews ddod yn gyntaf yng nghategori'r menywod gydag amser rhagorol o 4:20:37, ac enillodd Harry Palmer yng nghategori'r dynion a'i amser oedd 3:51:18.

IRONMAN 70.3 Abertawe 2025 oedd digwyddiad cyntaf erioed IRONMAN Pro Series y DU, wrth i dreiathletwyr proffesiynol gystadlu yn y Pro Series i ennill cyfran o gyfanswm gwobrau o $1.7 miliwn.

Nofiodd yr athletwyr mewn cylch 1.2 milltir o hyd yn Noc Tywysog Cymru cyn iddynt fynd ar gwrs beicio 56 milltir o hyd trwy'r Mwmbwls, ar hyd ffyrdd sy'n dilyn clogwyni arfordirol penrhyn Gŵyr, cyn beicio allan trwy Abertawe wledig a dilyn Bae Abertawe i'r ddinas. Yn olaf, rhedodd athletwyr 13.1 milltir ar hyd Bae Abertawe cyn cyrraedd y llinell derfyn ym Mharc yr Amgueddfa, lle roedd y gynulleidfa gyffrous yn eu cefnogi.

Bydd IRONMAN 70.3 Abertawe yn dychwelyd i'r ddinas ar ddydd Sul 12 Gorffennaf 2026.

Chwech o barciau'r cyngor yn ennill statws baner werdd

Mae chwech o brif barciau Abertawe wedi ennill statws baner werdd, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r amgylchedd naturiol.

Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Llewelyn, Parc Cwmdoncyn a Pharc Victoria oll wedi cadw statws y faner bwysig am flwyddyn arall.

Rheolir yr holl barciau gan Gyngor Abertawe ac maent yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Eich cyfle i hysbysebu yn ein llyfryn Joio'r Nadolig

Hoffech chi hysbysebu'ch busnes yn ein llyfryn Joio'r Nadolig?

Rydym yn cynhyrchu 10k o gopïau i'w dosbarthu mewn detholiad o fannau hamdden/manwerthu yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r llyfryn yn hyrwyddo digwyddiadau, gweithgareddau'r Nadolig a ffyrdd y gall teuluoedd fwynhau'r Nadolig yn Abertawe.

Mae'r ffïoedd fel a ganlyn: 

  • Hysbyseb hanner tudalen - £295
  • Tudalen lawn - £495
  • Dwy dudalen - £825

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysebu yw dydd Gwener 5 Medi ac rydym yn bwriadu dosbarthu'r llyfryn yng nghanol mis Hydref.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drefnu hysbyseb, e-bostiwch ffion.jennings@abertawe.gov.uk

Gwaith gwella rheilffyrdd ar y gweill rhwng Swindon a Bristol Parkway: 7 - 20 Gorffennaf

Mae Great Western Railway (GWR) wedi cyhoeddi gwaith draenio hanfodol yn nhwnnel Chipping Sodbury rhwng Bristol Parkway a Swindon. 

Mae'r gwaith hwn yn rhan o raglen barhaus Network Rail i helpu i leihau effaith llifogydd ar y rheilffyrdd ac yn yr ardal ehangach. 

Er mwyn caniatáu i beirianwyr weithio'n ddiogel, byddwn yn cau'r rheilffordd dros rhwng Bristol Parkway a Swindon dros dro rhwng dydd Llun 7 a dydd Sul 13 Gorffennaf a dydd Sul 20 Gorffennaf tan 4pm. 

Rhwng dydd Llun 7 a dydd Sadwrn 13 Gorffennaf bydd trenau rhwng Llundain a de Cymru'n cael eu dargyfeirio drwy Gaerfaddon a Chippenham, gan ymestyn amserau teithio tua 30 munud, a bydd rhai trenau ychwanegol yn teithio ar adegau prysur rhwng gorsaf Paddington Llundain a Swindon. 

Ddydd Sul 20 Gorffennaf tan 4pm, bydd trenau rhwng Llundain a de Cymru'n cael eu dargyfeirio trwy Gaerloyw gan ychwanegu tua 60 munud i amserau teithio. 

Mae'r holl newidiadau wedi cael eu lanlwytho i systemau ar-lein ar gyfer cynllunio teithiau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gwr.com/upgrade

Croeso i'n Cwrs Hyfforddiant Lleihau Carbon Sero Net ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Abertawe: 25 Gorff (9am-4pm), SA2 8HS

Wrth i'r byd ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, mae gan fusnesau rôl bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd nodau hinsawdd byd-eang. Mae ein cwrs hyfforddi'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gyflawni niwtralrwydd carbon, meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a phrisiau ynni cynyddol, a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Yn ystod y cwrs hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn dysgu am hanfodion lleihau carbon a'r llwybr i allyriadau sero net. Byddwn yn cynnwys pynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy, lleihau gwastraff a mwy. Yn ogystal, byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn yn eu busnesau eu hunain.

Mae ein hyfforddwr, Tanya Nash o Future Clarity, yn arbenigwr ym maes cynaladwyedd a lleihau carbon. Bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar sut i fesur a lleihau allyriadau carbon, a sut i ddatblygu strategaeth lleihau carbon sydd wedi'i theilwra ar gyfer pob busnes.

Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer busnesau bach a chanolig o unrhyw sector sydd â diddordeb mewn lleihau eu hôl troed carbon a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Ymunwch â ni i gymryd camau tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy!

Cadwch eich lle heddiw

Sgiliau I Abertawe - 21 Awst

Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn cynnig sesiynau hyfforddi hanner diwrnod am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau digidol unigolion sy'n byw neu'n gweithio yn Abertawe.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n gweithdai am ddim? Porwch ein sesiynau sydd i ddod a gwnewch gais i ymuno isod.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.

Rhaid i chi fod yn 19 oed neu hŷn, yn byw neu'n gweithio yn Abertawe heb fod mewn addysg llawn amser. Preswylwyr neu weithwyr Abertawe 19+ oed sy'n ceisio gwella eu sgiliau llythrennedd digidol a thechnoleg.

Dyddiadau A Thestunau:

  • Iau 21 Awst - Sylfeini Rhaglennu
  • Iau 25 Medi - Deallusrwydd Artiffisial yn y Byd Modern 
  • Iau 23 Hydref - Trin Data 
  • Iau 20 Tachwedd - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol 
  • Iau 4 Rhagfyr - Sylfeini Rhaglennu 

Ymholwch Nawr

Eich Gwasanaeth Bws, Eich Llais - mae angen barn y cyhoedd ar wasanaethau bws newydd yng Nghymru

Mae'r cam mawr nesaf i wella gwasanaethau bws yng Nghymru ar y gweill wrth i Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol annog pobl De-orllewin Cymru i rannu eu barn a'u safbwyntiau ar y newidiadau arfaethedig.

Mae'r bil diwygio'r bysiau yn mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd a bydd masnachfreinio bysiau yn dechrau yn haf 2027, a De-orllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i elwa o'r newidiadau.

Mae Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru bellach yn ystyried rhai newidiadau rhwydwaith y gellid eu cyflawni. Gelwir hyn yn Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig ac mae'n dangos y llwybrau y gallai bysiau eu cymryd ac amlder y gwasanaethau yn 2027.

Bydd y newidiadau cychwynnol o fewn y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhwydwaith presennol, gwneud gwelliannau a defnyddio adnoddau presennol.

Bydd TrC yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a'r cyhoedd i adeiladu a gwella'r newidiadau hyn yn barhaus dros amser.

Gall y cyhoedd roi eu barn ar-lein: dweudeichdweud.trc.cymru/diwygior-bysiau

Cynhelir digwyddiadau cymunedol hefyd.

Teithiau Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn: Cynnig Hanner Pris i Bartneriaid Twristiaeth

Mae Distyllfa Penderyn yn cynnig côd disgownt unigryw i'n partneriaid masnachol ym maes twristiaeth i fwynhau taith o amgylch Distyllfa Gwaith Copr Abertawe am hanner pris. 

Cewch gyfle i ddysgu am sefydlu Penderyn, sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a pham mae'n unigryw. Byddwch hefyd yn gweld y twnnel copr, sy'n adlewyrchu hanes y safle, yn ogystal â'r felin, y gasgen fragu, distyllyron potiau copr sengl arloesol Penderyn Faraday a phâr o ddistyllyron pot. Ar ddiwedd y daith, ceir cyfle i roi cynnig ar rai o'r cynhyrchion yn y bar blasu! 

Cynhelir teithiau o ddydd Iau i ddydd Sadwrn. 

Prif arferol tocyn i oedolyn yw £19.50 - ond bydd y côd disgownt unigryw hwn yn eich galluogi i dalu £9.75 fesul oedolyn, neu £8 ar gyfer tocyn consesiynol (pobl dros 60 oed a myfyrwyr). 

Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer hyd at ddau berson fesul archeb a bydd ar gael tan ddydd Sul 31 Awst 2025. 

 Archebwch docyn yma gan ddefnyddio'r côd disgownt STTD50 

Expo Busnes Cymru 2025 - 10 Medi, Arena Abertawe

Mae'r digwyddiad am hwn, sydd am ddim, yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu gyda sefydliadau arweiniol o bob cwr o Gymru, oll yn ceisio gwella eu cadwyni cyflenwi lleol yn rhagweithiol.

Yn ystod y digwyddiad y llynedd, gwnaethom ddenu 97, o arddangoswyr, i arddangos 872 o gyfleoedd contract werth swm trawiadol o £36.1 billion.

Eleni, rydym yn dod â hyd yn oed mwy o brynwyr, cyflenwyr a sefydliadau cymorth ynghyd i ysgogi cydweithrediad a thwf.​

Archwiliwch gyfleoedd lleol ar gyfer eich busnes yn ein Harddangosiadau unigryw a gyflwynir gan y tîm Economi Sylfaenol a Busnes Cymru.

Gyda ffocws ar sectorau economi sylfaenol allweddol fel bwyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu a datgarboneiddio trafnidiaeth, gan gynnwys llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig sy'n cyflenwi ac yn darparu ar gyfer y sectorau hyn, mae rhywbeth at ddant pawb. Darganfyddwch gyfleoedd byw a phwysigrwydd prynu'n agosach at adref.

Cofrestrwch nawr i gysylltu â phrynwyr a chyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch busnes a'ch setiau Sgiliau.

Bydd hyd at 80 o arddangoswyr yn bresennol ym mhob digwyddiad, yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau sector cyhoeddus, ac arweinwyr ym maes adeiladu, gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, sefydliadau cymorth, a mwy: Cofrestru Arddangoswyr | Business Wales Expo

Sioeau Busnes Cymru 2025 - 14 Hydref,  Stadiwm Swansea.com

Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae'n cynnwys tair sioe genedlaethol.

Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Mae'r sioeau'n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy'n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio.

Mae'r sioeau am ddim os ydych chi'n cofrestru ymlaen llaw, ac mae cyfleoedd hefyd i arddangos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: The Welsh Business Shows - Business Expo Wales | TWBS

Ydych chi'n cynnig cynnyrch neu wasanaeth sy'n berthnasol i sector digwyddiadau busnes yng Nghymru?

Ydych chi'n ceisio cyrraedd marchnad ryngwladol y tu allan i Gymru i helpu i leihau tymhoroldeb a llenwi archebion canol wythnos?

P'un ai eich bod yn lleoliad, atyniad, darparwr llety (gyda neu heb ofod cyfarfod), arbenigwr adeiladu tîm, neu'n cynnig profiadau wedi'u teilwra neu bwrpasol, mae Meet in Wales yn darparu llwyfan i'ch helpu i gyrraedd trefnwyr a phrynwyr digwyddiadau corfforaethol.

Rydym yn gwahodd busnesau fel eich un chi i archwilio a allai rhestru eich busnes ar gronfa ddata Digwyddiadau Busnes fod yn addas i chi. Mae Digwyddiadau Busnes yn cynhyrchu hyd at 4 gwaith yn fwy o incwm nag ymwelydd hamdden, ond mae ganddynt gyfnod arwain hirach a dychweliad ar fuddsoddiad. Byddan nhw'n chwilio am gyrchfannau sy'n cynnig ymdeimlad o le a phrofiad o ansawdd.

I fod yn gymwys, bydd angen i chi:

  • Gael rhestr fyw neu restr ar y gweill ar eich gwefan eich hun sy'n targedu'r farchnad gorfforaethol ynglir.
  • Medru ymateb yn brydlon i ymholiadau digwyddiadau busnes, sydd yn aml â therfynau amser tynn.
  • I ddarparwyr llety a rhai darparwyr gweithgareddau, mae angen gradd gymeradwy gan Croeso Cymru.
  • Gallu cydweithio gyda chynnyrch lleol arall sy'n gallu cefnogi'r cynnig ehangach megis bwytai, trafnidiaeth, neu weithio gyda'n DMCs sydd yn aml angen sicrhau ystafelloedd yn gynnar.

Os yw hyn yn swnio fel eich busnes chi, os ydych yn cydweithio gyda busnesau eraill ac yn gallu cynnig cynnig rhanbarthol i ddenu digwyddiadau corfforaethol - neu os ydych yn barod i gymryd y cam nesaf - cysylltwch â ni yn meetinwales@llyw.cymru i ddarganfod mwy.

 Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i arddangos y gorau o Gymru i fyd digwyddiadau busnes.

Am ragor o wybodaeth am Meet In Wales, ewch i wefan diwydiant Cymru:

Ymgysylltu â Digwyddiadau Busnes | Cymryd Rhan | Diwydiant Croeso Cymru

I gael gwell dealltwriaeth o'r farchnad a'r ymchwil ddiweddaraf gan gynnwys ymchwil i wwariant cynrychiolwyr:

Ymgysylltu â Digwyddiadau Busnes | Cymryd Rhan | Diwydiant Croeso Cymru Ymchwil Digwyddiadau Busnes | VisitBritain.or

Hyrwyddwch eich busnes twristiaeth neu letygarwch am ddim ar wefan croesobaeabertawe.com

Ydych chi'n fusnes twristiaeth neu letygarwch yn Ninas a Sir Abertawe?

Os felly, gallech fod yn gymwys i gael eich cynnwys ar wefan swyddogol y cyrchfan, croesobaeabertawe.com, am ddim. 

Mae'r wefan, a gynhelir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, yn cael ei defnyddio ar gyfer ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu ymwelwyr newydd ac ymwelwyr dychwel i'r ardal. 

Gall gweithredwyr llety lleol, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau bwyd a diod sydd am ddod yn bartneriaid Croeso Bae Abertawe a manteisio ar amrywiaeth o fuddion restru eu busnes am ddim.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk neu cofrestrwch eich busnes yma.

Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2025:

3 Awst: Sioe Gŵyr
13-14 Awst: Theatr Awyr Agored
6-14 Medi: Gŵyl Gerdded Gŵyr
14 Medi 2025: 10k Bae Abertawe
5 Tach: Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe 

Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2025