Toglo gwelededd dewislen symudol

Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 18 Tach 2025

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

Sgiliau I Abertawe - 20 Tachwedd

Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn cynnig sesiynau hyfforddi hanner diwrnod am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau digidol unigolion sy'n byw neu'n gweithio yn Abertawe.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n gweithdai am ddim? Porwch ein sesiynau sydd i ddod a gwnewch gais i ymuno isod.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.

Rhaid i chi fod yn 19 oed neu hŷn, yn byw neu'n gweithio yn Abertawe heb fod mewn addysg llawn amser. Preswylwyr neu weithwyr Abertawe 19+ oed sy'n ceisio gwella eu sgiliau llythrennedd digidol a thechnoleg.

Dyddiadau A Thestunau:

  • Iau 20 Tachwedd - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol 
  • Iau 4 Rhagfyr - Sylfeini Rhaglennu 

Ymholwch Nawr

Lansio ymgynghoriad i roi mwy o hyblygrwydd i lety gwyliau - agor tan 20 Tachwedd

Mae cynigion newydd wedi cael eu hawgrymu i addasu'r ffordd y mae rheolau treth ar gyfer perchnogion llety gwyliau hunanddarpar yn cael eu cymhwyso.

Ers mis Ebrill 2023, rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael am 252 diwrnod a'u gosod am 182 diwrnod bob blwyddyn i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor. Cafodd y rheolau eu cyflwyno i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at eu cymuned leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddau newid allweddol i'r ffordd y mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso, er mwyn rhoi sefydlogrwydd ychwanegol i'r sector:

  • Caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio 182 diwrnod ar gyfartaledd dros sawl blwyddyn. Mae hyn yn golygu y byddai'r rhai sydd wedi colli'r cyfle, o drwch blewyn, i osod eu llety gwyliau am 182 diwrnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn aros ar ardrethi annomestig os oeddent wedi ei gyflawni ar gyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd flaenorol.
     
  • Caniatáu hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim a roddir i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai cynghorau ystyried rhoi mwy o amser i fusnesau addasu, megis cyfnod gras o 12 mis cyn y gallent orfod talu cyfraddau treth gyngor uwch pan fyddant yn symud o ddosbarthiad annomestig i ddosbarthiad domestig.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 20 Tachwedd. 

Ymatebwch yma

Dyfodol parciau Abertawe: cyfle i ddweud eich dweud - 23 Tach

Mae llawer o barciau gwahanol ledled dinas a sir Abertawe. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r rhain i bawb, penodwyd Counterculture gan Gyngor Abertawe i helpu i greu Strategaeth Datblygu Parciau newydd â nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir.

Er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cynnwys pawb, rydym yn gofyn i breswylwyr a busnesau rannu eu barn a'u syniadau. A wnewch chi lenwi'r arolwg byr hwn erbyn 23 Tachwedd i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Dylai gymryd 15 munud ar y mwyaf www.abertawe.gov.uk/arolwgparciau

Dyddiad cau: dydd Sul 23 Tachwedd, 23.59pm

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025-26 Llywodraeth y DU

Gorymdaith nodedig y Nadolig yn dychwelyd i Abertawe - 23 Tach

! Bydd y ddinas yn llawn hwyl yr ŵyl nos Sul 23 Tachwedd am 5pm wrth i Orymdaith y Nadolig Abertawe feddiannu'r strydoedd. Bydd LLWYBR NEWYDD SBON a llu o bethau annisgwyl.

Bydd llwybr NEWYDD yr orymdaith eleni'n dechrau o Neuadd y Ddinas, lle bydd Siôn Corn yn goleuo'r adeilad yn goch. Dilynir hynny gan dân gwyllt i nodi dechrau'r orymdaith, a fydd yn teithio ar hyd St Helen's Road drwy Ffordd y Brenin, ar draws College Street, ar hyd Castle Street a Caer Street, ac yn gorffen ar Princess Way, gan gynnig golygfeydd a phrofiadau o fannau newydd i deuluoedd ledled y ddinas.

Byddwch yn barod am wledd o liwiau, cerddoriaeth a llawenydd wrth i fwy na 40 o grwpiau cymunedol, fflotiau gwefreiddiol a chymeriadau poblogaidd o straeon tylwyth teg a llyfrau comig, gan gynnwys Sinderela a Rwdaba (Rapunzel), lenwi canol y ddinas â hwyl yr ŵyl. Bydd Mr a Mrs Siôn Corn yn bresennol, gan godi llaw o'u sled hudol!

Bydd adloniant byw yn cadw hwyliau pawb yn uchel ar ddau lwyfan: llwyfan yn Neuadd y Ddinas a'r llwyfan traddodiadol y tu allan i The Dragon Hotel, lle bydd coeden Nadolig newydd ac y bydd Siôn Corn yn troi goleuadau Nadolig Abertawe ymlaen. Dilynir y ddefod honno gan ragor o dân gwyllt i oleuo awyr y nos.

Bydd diddanwyr proffesiynol, cymeriadau o straeon tylwyth teg ac archarwyr yn diddanu plant ac oedolion fel ei gilydd. Dyma'r cyfle perffaith i ddechrau dathlu'r Nadolig, ynghyd ag ymweliad yn gynharach yn y diwrnod â'r llyn iâ a'r bar Alpaidd yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, a'r Ffair Nadolig Fictoraidd, lle bydd llu o roddion artisan, crefftau a danteithion Nadoligaidd yng nghanol y ddinas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld map o'r LLWYBR NEWYDD drwy fynd i www.croesobaeabertawe.com

Galw am wobrau i'w rhoi yng Nghystadleuaeth Joio'r Nadolig - 24 Tach

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein Cystadleuaeth Nadolig y llynedd, byddwn yn cynnal cystadleuaeth gyffrous arall yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig eleni - a byddwn yn cyflwyno gwobrau gwych i'r enillwyr ffodus drwy gydol mis Rhagfyr.

Hoffech chi hyrwyddo eich busnes a bod yn rhan o'n cystadleuaeth Nadolig gyffrous? Rydym yn chwilio am wobrau gwych i'w rhoi i'r enillwyr, a gyhoeddir drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yn gyfnewid, cewch eich cynnwys (a'ch tagio) yn y postiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y wobr berthnasol.

Y llynedd, denodd ein cystadleuaeth 5,000 o geisiadau a llawer o gyfranogiad cadarnhaol drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, cyfeirir ati yn ein e-gylchlythyr i gwsmeriaid yn ystod y gaeaf.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd angen i gyfranogwyr hoffi'r postiad a chyflwyno sylwadau amdano.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan a rhoi gwobr, a wnewch chi e-bostio Daisy.Thomas@abertawe.gov.uk cyn dydd Iau 24 Tachwedd.

Diolch yn fawr!

Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a'r ardoll ymwelwyr - 25 Tach (2pm)

Daeth y Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) yn gyfreithiol ym mis Medi 2025.

Mae'r gyfraith yn rhoi'r dewis i gynghorau Cymru gyflwyno ardoll ymwelwyr o fis Ebrill 2027. 

O hydref 2026 ymlaen, yn unol â'r gyfraith rhaid i unrhyw un sy'n codi tâl ar ymwelwyr dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae cofrestru yn angenrheidiol i bawb sy'n codi tâl am arosiadau dros nos, o westai a bythynnod gwyliau, i wersylloedd a gosodiadau achlysurol yn ystod digwyddiadau mawr.

Mae ACC yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth cofrestru a rheoli'r ardoll ymwelwyr ar ran cynghorau.

Mae ACC yn cynnal gweminarau ym mis Tachwedd i'ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau. Fe gewch:

  • Ddiweddariadau ar gofrestru llety ymwelwyr a'r ardoll ymwelwyr
  • Canllawiau ymarferol ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud
  • Atebion i'ch cwestiynau gan arbenigwyr ACC

Cofrestr cenedlaethol i llety ymwelwyr a'r ardoll ymwelwyr

Rhaglen Gweminarau Rhad ac Am Ddim Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn dychwelyd: 3 Tach - 3 Rhag

Mae'r Daith 2025 yn dechrau fis nesaf!

Ochr yn ochr â'r Daith Sadwrn y Busnesau Bach flynyddol i ddathlu'r holl fusnesau bach epig, bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach hefyd yn darparu rhaglen helaeth o weithdai dyddiol rhithwir am 11am rhwng 3 Tachwedd a 3 Rhagfyr.

Gan ymdrin â phynciau hanfodol fel marchnata ar gyllideb, rheoli amser, cyllid, ac offer digidol newydd fel deallusrwydd artiffisial, byddwch yn cael awgrymiadau a mewnwelediadau ymarferol gan arbenigwyr yn y diwydiant.

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gweminarau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!

Gweminarau hydref Croeso Cymru 2025 - 4 Rhag

Yr hydref hwn, bydd Croeso Cymru yn cynnal cyfres o weminarau diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a llywio busnesau twristiaeth ledled Cymru. Gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau defnyddiol, bydd y sesiynau ar-lein hyn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac arweiniad i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod, cyfres werthfawr sydd wedi'i chynllunio i'ch cadw'n wybodus ac eich ysbrydoli.

  • Datgloi Pŵer Digwyddiadau: Cyfle drwy gydol y flwyddyn i Gymru - 4 Rhagfyr (2:00 yp - 3:00 yp)

Archebwch eich lle heddiw

Gwaith uwchraddio Llwybr Arfordir Gŵyr wedi'i gwblhau

Mae Cyngor Abertawe newydd gwblhau'r ddwy ran olaf o lwybr arfordir Gŵyr (310 metr) rhwng Rotherslade a Limeslade, gan osod llwybr concrit 1.5 metr o led ar ei hyd.

Mae'r llwybr rhwng y ddwy gymuned yn ymestyn am 1.7km, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cyngor wedi gorfod gosod rhannau newydd ar hyd y llwybr oherwydd erydiad arfordirol.

Crëwyd rhan 450 metr newydd sbon o'r llwybr ym mis Mawrth eleni, a hynny ar ben rhan flaenorol, a oedd yn ymestyn am 270 metr arall, a gwblhawyd yn 2022.

Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad gwerth £80,000 sydd wedi'i ariannu drwy raglen cynnal a chadw priffyrdd ehangach y cyngor.

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61km o'r llwybr o gwmpas y penrhyn er mwyn galluogi pobl i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

Safonau newydd ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru

Mae pobl ar eu gwyliau yng Nghymru yn mynd i elwa o Fil newydd gyda'r nod o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru a chynyddu faint o lety ymwelwyr o ansawdd uchel sydd ar gael.

Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety gwyliau a bydd rhaid iddynt fodloni set o safonau sy'n dangos bod y llety yn addas ar gyfer ymwelwyr. Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn berthnasol i lety hunangynhwysol, hunanarlwyo fel bythynnod gwyliau a fflatiau. Bydd angen i ddarparwyr fodloni safon 'addasrwydd ar gyfer llety ymwelwyr' i gael trwydded, a hynny drwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydanol ac yswiriant, ynghyd â larymau mwg a charbon monocsid.

Mae ymchwil yn dangos nad yw bron i ddau o bob tri o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn gwybod nad oes angen trwydded ar berchnogion llety gwyliau ar hyn o bryd. Byddai dros 80% o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn fwy tebygol o drefnu llety gwyliau pe bai cynllun trwyddedu yn bodoli.

Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ymestyn trwyddedu i fathau eraill o lety.

Safonau newydd ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru

Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Bydd preswylwyr a busnesau ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe'n elwa o welliannau sylweddol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru.

Nod y cynllun, a fydd yn llywio buddsoddiad a datblygiad mewn trafnidiaeth hyd at 2030, yw ei gwneud yn haws, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy i bobl deithio ar draws y rhanbarth.

Mae'n nodi sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio a rhwydweithiau ffyrdd yn cael eu gwella i gysylltu cymunedau'n well, cefnogi economïau lleol a chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer de-orllewin Cymru.

Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, sy'n dwyn ynghyd y pedwar awdurdod lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn y rhanbarth. 

Mae'n dilyn proses ymgynghori helaeth lle rhannodd bron 900 o breswylwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol eu barn ar y cynllun drafft.

Helpodd yr adborth i lunio'r cynllun terfynol, sydd bellach wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cam nesaf yn cynnwys gwaith manwl i addasu'r rhestr derfynol o gynlluniau a fydd yn derbyn cyllid a dechrau ar y gwaith cyflwyno. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn cael eu cadarnhau.

Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhannu awgrymiadau ar gyfer seiberddiogelwch i fusnesau bach

Gyda ymosodiadau seiber ar y newyddion yn rheolaidd, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn atgoffa busnesau i wirio bod ganddyn nhw y mesurau diogelwch priodol yn eu lle i ddiogelu gwybodaeth bersonol.

Yn ôl Ffigyrau llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) fe amcangyfrifir bod busnesau wedi profi 7.7 miliwn o droseddau seiber dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bach yn cadw gwybodaeth bersonol ac yn rhedeg eu gwaith yn ddigidol. Mae'n gwbl hanfodol felly bod seiberddiogelwch yn flaenoriaeth i'r busenesau bach hynny.

Dyma rai camau ymarferol y gall busnesau a'u staff eu cymryd i wella eu diogelwch a'u gwytnwch data:

  • Gwneud copi wrth gefn o'ch data.
  • Defnyddio cyfrineiriau cryf a dilysiad (authentication) sy'n defnyddio sawl ffactor.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas..
  • Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost amheus.
  • Gosodwch amddiffyniad gwrth-firws a malware a'i gadw'n gyfredol.
  • Amddiffynnwch eich dyfais pan na fydd goruchwyliaeth.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cysylltiad Wi-Fi yn ddiogel.
  • Sicrhewch mai dim ond y rhai sydd angen gwneud hynny sy'n cael mynediad.
  • Cymerwch ofal wrth rannu eich sgrin ag eraill a byddwch yn ofalus wrth anfon negeseuon e-bost at sawl person.
  • Peidiwch â chadw data am fwy o amser nag sydd ei angen arnoch.
  • Gwaredwch hen offer Technoleg Gwybodaeth a chadwch a'ch ffeiliau yn ddiogel.

Os ydy sefydliad yn profi tor ddiogelwch data o ganlyniad i ymosodiad seiber, dylent adrodd amdano wrth yr ICO o fewn 72 awr ar ôl dod yn ymwybodol ohono.

I dderbyn mwy o gyngor ar ddiogelu gwybodaeth bersonol, ewch i'w canllawiau diogelwch ar gyfer sefydliadau.

I dderbyn mwy o gymorth ar seiberddiogelwch, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'r rhaglen Cyber Essentials, cynllun ardystio a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy'n helpu i gadw data eich sefydliad a'ch cwsmeriaid yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber.

Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn lleihau'r risg o ymosodiadau seiber ar gael ar Cyngor ac arweiniad ar seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi busnesau ledled Cymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a meithrin gweithlu cryfach a mwy medrus. 

Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu am 50% o'r costau hyfforddi achrededig, a gall bob cais ofyn am hyd at £50,000 o gyfraniad. Nid oes isafswm i faint o gyllid y gellir ei roi.

P'un a ydych chi'n bwriadu llenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Hyrwyddwch eich busnes twristiaeth neu letygarwch am ddim ar wefan croesobaeabertawe.com

Ydych chi'n fusnes twristiaeth neu letygarwch yn Ninas a Sir Abertawe?

Os felly, gallech fod yn gymwys i gael eich cynnwys ar wefan swyddogol y cyrchfan, croesobaeabertawe.com, am ddim. 

Mae'r wefan, a gynhelir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, yn cael ei defnyddio ar gyfer ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu ymwelwyr newydd ac ymwelwyr dychwel i'r ardal. 

Gall gweithredwyr llety lleol, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau bwyd a diod sydd am ddod yn bartneriaid Croeso Bae Abertawe a manteisio ar amrywiaeth o fuddion restru eu busnes am ddim.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk neu cofrestrwch eich busnes yma.

Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2025:

20-23 Tach: Ffair Nadolig Fictoraidd Abertawe
21 Tach - 4 Iona: Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
23 Tach: Gorymdaith y Nadolig Abertawe

Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025