Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swyddog datblygu cerdded

Prif rôl y Swyddog Datblygu Cerdded yw annog mwy o gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ymysg grwpiau targed a nodwyd, a sicrhau bod cysylltiadau i 'lwybrau gadael' priodol a phrosiectau gweithgarwch corfforol eraill ar waith.

Mae'r SDC yn arwain y gwaith o ddatblygu grwpiau a chyfleoedd cerdded cynaliadwy yn y gymuned yn Abertawe, ac yn nodi cyfleoedd cerdded ar garreg y drws. Mae'r SDC wedi sefydlu rhaglen o gyrsiau hyfforddiant Arweinydd Troeon Iechyd sydd wedi hyfforddi dros 200 o arweinwyr ar draws Abertawe. Mae croeso i gynrychiolwyr ddod i gyrsiau yn y dyfodol.

Mae'r SDC yn cefnogi grwpiau presennol a newydd i ddod o hyd i adnoddau a chyllid, ac yn helpu i gynllunio a rheoli troeon a chyfleoedd i ehangu eu hamrywiaeth o droeon. Mae'r SDC yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Enw
John Ashley
Teitl y Swydd
Walking Development Officer
Close Dewis iaith