Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae plant Gellifedw wrth eu boddau gyda'u hardal chwarae newydd

Mae plant yng Ngellifedw'n dathlu diolch i waith i adnewyddu ardal chwarae boblogaidd ym Mharc yr Helyg.

Ddoe cafodd ei hagor yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart yn ystod digwyddiad cymunedol arbennig gydag ychydig o gymorth gan fasgot chwarae'r cyngor, Jo Joio, sydd wedi rhoi cynnig ar rai o'r reidiau newydd hefyd.

Mae ardal chwarae Parc yr Helyg ar ei newydd wedd yn cynnwys weiren sip 12m o hyd, trampolîn bach, siglenni ar gyfer plant ifanc a phlant hŷn ac amrywiaeth o gyfarpar eraill er mwyn cadw plant ifanc yn hapus am oriau ar y tro.

Mae'r prosiect gorffenedig yn un o dros 30 o gynlluniau sy'n dod i'r amlwg ar draws y ddinas fel rhan o raglen Cyngor Abertawe gwerth mwy na £2m.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 eleni fel y gellir bywiogi ardaloedd chwarae mawr eu hangen. Mae'r cyngor yn gweithio gydag aelodau ward a'r gymuned leol i sicrhau bod plant yn cael y cyfarpar y  byddant yn ei hoffi. 

"Mae'n wych bod yma heddiw i weld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain gymaint ac mae'n golygu bod yr holl ymdrechion a wnaed gan gynghorwyr lleol a thimau ein cyngor yn werth chweil. Rwy'n gobeithio y byddant yn cael hwyl yn yr ardal hon am flynyddoedd i ddod."

Close Dewis iaith