Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadw slot yn y ganolfan ailgylchu - arweiniad cam wrth gam

Sut i drefnu'ch slot amser i ymweld â Chanolfan Ailgylchu Llansamlet.

  1. Cliciwch ar y botwm 'Cadw slot yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet' ar dudalen Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet.
     
  2. Nodwch eich côd post yn y blwch 'Chwilio am gôd post', yna cliciwch 'Chwilio am gyfeiriad'. Yna, dewiswch eich cyfeiriad o'r opsiynau a restrir yn y gwymplen a chliciwch 'nesaf' ar waelod y dudalen.

  3. Cadarnhewch fod eich cyfeiriad yn gywir trwy glicio 'nesaf' yn y dudalen sy'n dilyn.

  4. Dewiswch ddyddiad ymweliad o'r opsiynau a restrir. Gwasgwch yr arwyddion dde a chwith i symud drwy'r wythnosau gwahanol. Cliciwch ar y dyddiad o'ch dewis yna cliciwch 'Cadw lle' ar amser addas o'r rhestr isod.

  5. Cliciwch ar y symbol 'plws' (+) yn y blwch 'cadarnhau eich slot' yna'i newid i un (1) a nodwch yr wybodaeth ofynnol am gerbydau a manylion cyswllt yn y blwch 'Manylion archebu'. Pan fydd wedi'i gwblhau, cliciwch ar y botwm 'Parhau'.

  6. Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y rheolau ar y safle a chliciwch y botwm 'Archebu'. Yna, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda'r manylion hynny ynddo. Gwiriwch eich mewnflwch post sothach os nad yw'n ymddangos yn eich mewnflwch arferol.

  7. Ymwelwch â'r ganolfan ar y dyddiad a'r amser a nodwyd ac ewch â thystiolaeth o'ch cyfeiriad a'ch slot a gadwyd (bydd dangos yr e-bost ar eich ffôn neu ddyfais debyg yn iawn).