Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arweiniad i gyflwyno cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yn y parth allanol

Mae'r arweiniad canlynol wedi'i baratoi i gynorthwyo ceisiadau i gwblhau'r cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd yn y parth allanol.

Os cyflwynir caniatâd, bydd telerau ar waith a fydd yn nodi'r cynnyrch a/neu'r gwasanaethau a gaiff eu gwerthu ynghyd â'r maint/math a'r golwg a ganiateir ar gyfer y cerbyd/uned a ddefnyddir. Lluniwyd y telerau hyn i sicrhau bod masnachu ar y stryd yn cael ei gydlynu a'i reoli'n dda i gyd-fynd â'r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir bob dydd yng nghanol y ddinas.

Mae'r telerau hefyd yn sicrhau bod pob stondin a ganiateir o'r safon briodol ac yn lân, yn ddeniadol ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n dda. Caiff faniau hufen iâ a byrgers eu hystyried am ganiatâd yn y parth allanol.

Gellir rhoi caniatâd am o leiaf 3 mis a hyd at 12 mis. Mae'r ffïoedd cyfredol ar gyfer masnachu ar y stryd yr un peth ar draws pob un o'r parthau allanol heb ystyried lleoliad y lleiniau a nifer cysylltiedig yr ymwelwyr. 

Pan gaiff cais ei dderbyn, bydd Safonau Masnach yn ceisio barn adrannau mewnol amrywiol, asiantaethau allanol a rhanddeiliaid. Mae cyfnod ymgynghori 28 niwrnod wedi'i gynnwys yn y broses i ganiatáu am ymgynghori â'r grwpiau canlynol: 

  • Heddlu De Cymru
  • Tîm Diogelwch Bwyd Cyngor Abertawe
  • Is-adran Priffyrdd Cyngor Abertawe
  • Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe
  • Is-adran Cynllunio Cyngor Abertawe
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Aelodau ward ar gyfer yr ardal leol.

Mae'r broses benderfynu'n cymryd hyd at 28 niwrnod fel arfer o'r dyddiad y mae Safonau Masnach yn derbyn y cais. Mae hyn y ddibynnol ar yr ymgeisydd yn cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol ac ymateb i unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth yn gyflym. Mae masnachu yn ystod yr amser hwn heb ganiatâd masnachu ar y stryd yn drosedd, a gallech gael eich erlyn o ganlyniad.

Ffioedd ar gyfer trwyddedau masnachu ar strydoedd y parth allanol Ffioedd ar gyfer trwyddedau masnachu ar strydoedd y parth allanol

Rhaid i'r person sy'n gwneud cais am ganiatâd:

  • fod yn 17 oed neu'n hŷn
  • cwblhau'r cais ar gyfer parth allanol canol y ddinas yn llawn
  • darparu tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol gyda lleiafswm yswiriant o £5 miliwn.
  • meddu ar ganiatâd i fasnachu ar y tir y mae'n gwneud cais amdano
  • talu'r ffi sy'n ofynnol
  • wedi bod yn destun gwiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) dim mwy na mis yn ôl
  • chwarae rhan bwysig yn y busnes
  • meddu ar ddealltwriaeth glir o iechyd a diogelwch a sut mae'n ymwneud â'r busnes. 

Ceisiadau Adnewyddu

Rhaid anfon ffotograffau lliw diweddar (a dynnwyd yn y mis diwethaf) o'r cerbyd neu'r uned a ddefnyddir gyda cheisiadau i adnewyddu'ch caniatâd.

Os ydych am adnewyddu'ch caniatâd, dylech wneud cais am wiriad PNC newydd 60 diwrnod cyn i'r caniatâd ddod i ben. Mae hyn yn caniatáu 30 niwrnod er mwyn i'r PNC gyrraedd a chwblhau'r cais am adnewyddiad, ynghyd ag 28 niwrnod yn dilyn hyn ar gyfer y broses ymgynghori a chyhoeddi dogfennau newydd.

Arweiniad ar gwblhau cais caniatâd masnachu ar y stryd

Cyfeiriwch at y canlynol wrth gwblhau'r ffurflen gais.

1. Manylion Personol

Yn yr adran hon, mae angen i chi nodi manylion yr ymgeisydd a'i fanylion cyswllt ar gyfer y caniatâd. Mae'n RHAID i'r sawl sy'n meddu ar y caniatâd fod yn rhan weithredol o'r busnes.

2. Lleoliad arfaethedig ar gyfer masnachu

Rydym wedi rhannu ardaloedd masnachu'r sir yn ddwy ardal ar wahân, parth mewnol canol y ddinas a'r parth allanol (yr holl dir arall yn ardal y sir).

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd newydd sydd am fasnachu yn y parth allanol ddarparu'r union leoliad y maent yn bwriadu masnachu ynddo - boed hwnnw'n llain sefydlog neu'n gerbyd masnachu symudol. Bydd gofyn i chi ddarparu map i ddangos eich lleoliad arfaethedig, sy'n dangos eich llain neu ardal fasnachu arfaethedig. Mae'n rhaid i chi hefyd nodi a ydych chi'n bwriadu masnachu ar dir cyhoeddus neu breifat. Os ydych chi'n bwriadu masnachu ar dir preifat, mae gofyn i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog tir a'i gyflwyno gyda'ch cais.

Os ydych chi'n bwriadu masnachu o lain, boed hwnnw ar dir cyhoeddus neu breifat, am fwy na 3 awr y dydd ac am fwy na 28 niwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi wneud cais am ganiatâd cais cynllunio. Rhaid darparu tystiolaeth o wneud cais am ganiatâd cynllunio fel rhan o'ch cais (enw'r person rydych wedi cyflwyno'ch cais iddo neu'r dyddiad y'i cyflwynwyd)Bydd peidio â gwneud hyn yn oedi'r broses o roi caniatâd i chi.

3. Dyddiadau ac amserau y gwneir cais am ganiatâd ar eu cyfer

Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd am o leiaf 3 mis a hyd at 12 mis. Ystyrir rhoi caniatâd am ddiwrnod i bobl sydd am weithio mewn ffeiriau, carnifalau neu ddigwyddiadau, ond codir ffi am fis.

Mae'n rhaid i chi nodi eich dyddiau a'ch amserau arfaethedig ar gyfer masnachu.

4. Math o nwyddau

Mae'n rhaid i chi restru POB math o nwyddau a werthir gennych. Peidiwch â bod yn rhy gyffredinol wrth restru'r math o nwyddau.

5. Dull masnachu ar y stryd

Yma, rhaid rhoi manylion y math o gerbyd, stondin etc rydych yn bwriadu ei ddefnyddio ynghyd â rhif cofrestru'r cerbyd neu, yn achos fan arlwyo etc, rhif cofrestru'r cerbyd a ddefnyddir i'w dynnu. Mae'n rhaid i chi nodi dimensiynau'r cerbyd/llain.

6. Masnachwyr bwyd

Mae gofynion penodol ar gyfer gwerthu bwyd:

Ceir y gofyniad cyfreithiol i gofrestru'ch busnes bwyd yn Erthygl 6(2) Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 ar hylendid nwyddau bwyd.

Mae gofyn i chi gofrestru eich busnes bwyd symudol/sefydlog gyda'r awdurdod lleol yn yr ardal lle cedwir y cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio. Mae gofyn i chi nodi â pha awdurdod rydych wedi'ch cofrestru, ac ar ba ddyddiad y gwnaethoch gofrestru â'r awdurdod hwnnw.

Ar ddalen ar wahân, atebwch gwestiynau 6a i 6i a'i chyflwyno fel rhan o'ch cais.

7. Gwybodaeth i gefnogi'ch cais

  • os ydych yn meddu ar ganiatâd/drwydded masnachu ar y stryd mewn unrhyw awdurdod arall, mae angen i chi ddarparu'r manylion.
  • mae angen nodi manylion symiau a chyfleusterau storio unrhyw nwy petrolewm hylifedig neu unrhyw danwydd arall rydych yn bwriadu ei ddefnyddio fel rhan o'ch busnes.
  • mae angen i chi ddarparu manylion unrhyw drefniadau rydych yn bwriadu eu gwneud i atal gollwng gwastraff solet neu hylifedig.
  • os ydych yn bwriadu cyflogi cynorthwywyr, mae gofyn i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol - enw, cyfeiriad, dyddiad geni a 2x lun maint pasbort - cyn iddynt ddechrau gweithio i chi.

8. Manylion banc

Mae angen i chi ddarparu manylion y cyfrif banc a ddefnyddir i dalu eich ffïoedd masnachu ar y stryd. Os ydych chi'n talu'n llawn pan fyddwch yn derbyn anfoneb, mae angen eich manylion banc arnom o hyd. Os na fyddwch yn talu'r ffïoedd, cyfeirir y mater at ein Hadran Gyfreithiol.

Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno ffurflen Debyd Uniongyrchol (Word doc) [41KB] wedi'i llenwi gyda'ch cais i fasnachu ar y stryd.

9. Datganiad

Mae angen i'r sawl sy'n cyflwyno cais am ganiatâd masnachu ar y stryd lofnodi a dyddio'r cais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych yn mynd â'r ffurflen gais i'r Dderbynfa (Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe), bydd y gweithwyr yno'n gwirio'ch cais yn erbyn y rhestr wirio briodol ar dudalen 4 y cais. Os bydd unrhyw beth ar goll, caiff y cais ei ddychwelyd i chi er mwyn i chi ddarparu HOLL rannau gofynnol y cais. Fel arall, os ydych yn ei anfon drwy'r post, sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau perthnasol neu brawf o gyflwyno cais amdanynt a ffurflen gais wedi'i chwblhau, neu bydd y cyfan yn cael ei ddychwelyd atoch nes i chi allu darparu pecyn cais llawn.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais am wiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ar-lein gan Disclosure Scotland. Rhaid darparu copi o hwn cyn i ni allu rhoi caniatâd.

 

Mae dyletswydd ar yr awdurdod i ddiogelu arian cyhoeddus mae'n ei weinyddu ac, i'r perwyl hwn, gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych ar y ffurflen hon i atal a nodi twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn. Am fwy o wybodaeth, gweler Menter Twyll Genelaethol - Hysbysiad prosesu teg.

Close Dewis iaith