Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad ar Hawliau Dynol - fersiwn hawdd ei darllen

Mae arweiniad poced hawdd ei ddarllen ar hawliau dynol a pham y maent yn bwysig i fywydau pob dydd pobl yn Abertawe ar gael

Beth ydy Hawliau Dynol?

Rheolau i amddifyn pobl ydy Hawliau Dynol.

Mae gan bob person yn y byd Hawliau Dynol.

Dydyn nhw ddim yn cael eu cymryd oddi arnoch chi.
Weithiau maen nhw'n gallu cael eu cyfyngu - i'ch amddifyn chi, neu eraill.

Mae rhai o'n Hawliau Dynol yn cael eu diogelu gan gyfraith
y DU ac mae eraill yn cael eu diogelu gan gyfraith rhyngwladol.

Pa Hawliau sydd gen i yn y DU?

Rhaid inni ddilyn cyfraith rhyngwladol o'r enw y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae'r gyfraith yma yn dweud:

Mae gennych chi hawl i fywyd
Does neb yn gallu ceisio rhoi diwedd ar eich bywyd. Fe ddylai pobl fel y Llywodraewth a'r Heddlu feddwl am eich hawl i fywyd wrth wneud penderfyniadau sydd yn gallu efeithio arnoch chi.

Mae gennych chi hawl i fod yn rhydd o artaith a chreulondeb
Does gan neb yr hawl i'ch anafu. Rhaid i bobl fel yr Heddlu eich amddifyn os ydych chi yn cael eich trin fel hyn.

Mae gennych chi hawl i fod yn rhydd o gaethwasiaeth
Does neb yn gallu eich trin fel caethwas. Dydych chi ddim yn gallu cael eich gorfodi i weithio am ddim.

Hawl i ddiogelwch a rhyddid
Mae gennych chi yr hawl i fod yn rhydd. Ddylech chi ddim cael eich arestio rna'ch cloi i fyny am ddim rheswm da.

Mae gennych chi hawl i dreial teg
Os ydych chi yn cael eich arestio ac yn mynd i'r llys, rydych chi yn ddieuog hyd nes y byddwch yn cael eich prof yn euog.

Mae gennych chi yr hawl i amddifyn eich hun. A chael help cyfreithiol. Dim ond llys sydd yn gallu dweud eich bod yn euog o drosedd.

Dim cosb heb gyfraith

Rydych chi yn euog o drosedd dim ond os oedd yn erbyn y gyfraith pan wnaethoch chi ei gyfawni.
 
Mae gennych chi hawl i'ch bywyd preifat

Mae gennych yr hawl i fyw eich bywyd yn eich fordd chi.
Heb bobl eraill yn ceisio dweud wrthych chi sut i fyw.

Mae gennych chi hawl i feddwl a chredu beth rydych chi eisiau

Mae gennych yr hawl i gredu beth rydych chi eisiau. Dydy eraill ddim yn gallu dweud wrthych chi beth i'w gredu.

Mae gennych chi hawl i fynegi eich barn

Mae gennych chi hawl i gael eich barn a'ch meddyliau eich hun. Ac i ddweud wrth eraill beth ydyn nhw.

Mae gennych chi hawl i gymryd rhan mewn protestiadau heddychlon
Mae gennych chi hawl i ddod gyda phobl eraill mewn fordd heddychlon, i sefyll i fyny dros beth rydych chi'n gredu ynddo.

Mae gennych chi hawl i briodi a chael plant

Fe ddylech chi gael eich amddifyn rhag triniaeth annheg

Mae gan bawb hawliau cyfartal. Ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg oherwydd pethau fel eich oed, credoau neu anabledd.

Mae gennych chi hawl i fwynhau'r pethau sydd yn eiddo i chi

Does neb yn gallu ymyrryd gyda'r pethau sydd yn eiddo i chi nac yn y fordd rydych chi yn eu defnyddio heb reswm da iawn.

Mae gennych chi hawl i addysg

Mae gennych chi yr hawl i ddefnyddio ysgolion a cholegau.

Mae gennych chi hawl i gymryd rhan mewn etholiadau

Etholiadau ydy pan rydych chi yn pleidleisio dros rhywun neu rhywbeth. Rhaid iddyn nhw fod yn rhydd ac yn deg. Rhaid cadw pwy rydych chi'n pleidleisio drostyn nhw yn gyfrinachol.

Dim cosb eithaf

Dydych chi ddim yn gallu cael eich dedfrydu i farwolaeth am unrhyw drosedd.

Beth mae hyn yn ei feddwl imi?

Mae gan bobl sydd yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y Cyngor, yr Heddlu neu'r GIG, ddyletswydd
yn ôl cyfraith y DU i amddifyn yr hawliau yma.

Mae hyn yn bwysig, mae'n meddwl eich bod yn gallu:

  • Siarad i fyny.
  • Siarad gyda'ch gwasanaethau am barchu ac amddifyn eich hawliau dynol.
  • Gweithio gyda gwasanaethau i ddarganfod gwell atebion heb fod angen mynd i'r llys neu ddefnyddio cyfreithiwr.

Beth rydyn ni yn ei wneud yn Abertawe?

Mae Abertawe yn dod yn Ddinas Hawliau Dynol.

Mae hyn yn meddwl bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi addo rhoi Hawliau Dynol yng nghanol popeth maen nhw yn ei wneud.

Rhaid iddyn nhw wneud hyn yn ôl y gyfraith.
 
Fe fyddwn ni yn parhau i edrych ar sut rydyn ni'n gallu gwella deddfau Hawliau Dynol yma yn Abertawe.

Rydyn ni eisiau i Abertawe fod yn ddinas lle:

  • mae pawb yn gyfartal.
  • mae pobl yn deall eu hawliau ac yn parchu hawliau pobl eraill.
  • mae pobl yn cymryd rhan yn y penderfyniadau sydd yn efeithio arnyn nhw.

Rydyn ni'n gweithio i wella Hawliau Dynol drwy edrych ar ôl yr amgylchedd. A chymryd camau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

Rydyn ni'n meddwl am Hawliau Plant yn ein holl waith. Ac fe fyddwn ni yn parhau i weithio i wella hyn.

Sut i gymryd rhan

Rydych chi'n gallu cynnig eich cefnogaeth i helpu Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf yng Nghymru:

Ewch i'n gwefan a chliciwch y botwm coch Gwneud eich Addewid Hawliau Dynol:Ddinas Hawliau Dynol

Neu e-bostiwch ni: humanrights@swansea.gov.uk 
Neu foniwch ni: 01792 636000

Helpwch ni i edrych ar ôl ein hamgylchedd

Rydych chi'n gallu addo ein helpu ni i edrych ar ôl ein hamgylchedd ar ein gwefan:Addewid hinsawdd

Neu drwy ysgrifennu atom:

Newid Hinsawdd
Cyngor Abertawe
Canolfan Ddinesig
Oystermouth Road
Abertawe
SA1 3SN

Am ragor o wybodaeth am Hawliau

Tîm Hawliau Plant Cyngor Abertawe
Gwefan:Hawliau plant a phobl ifanc
E-bost: UNCRC@swansea.gov.uk
Ffôn: 07929 719528

Sefydliad Hawliau Dynol Prydeinig
Gwefan: The British Institute of Human Rights (bihr.org.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 020 3039 3646
 
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Gwefan: Comisiynydd Pobl Hyn Cymru (comisiynyddph.cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: ask@olderpeoplewales.com
Ffôn: 03442 640 670
 
Comisiynydd Plant Cymru
Gwefan:Comisiynydd Plant Cymru (complantcymru.org.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: advice@childcomwales.org.uk
Ffôn: 01792 765600

Comisiynydd Cenmdlaethau'r Dyfodol Cymru
Yn gallu helpu pobl i ddefnyddio'r gyfraith i holi gwasanaethau cyhoeddus am gynlluniau ar gyfer y dyfodol
Gwefan: Future Generations Commissioner for Wales (futuregenerations.wales) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: contactus@futuregenerations.wales
Ffôn: 02921 677 400
 
Uwch Gomisiynydd y CU ar Hawliau Dynol
Rhagor am hawliau dynol sydd wedi'u hamddifyn gan gyfraith rhyngwladol:
Gwefan: United Nations Human Rights (ohchr.org) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: ohchr-InfoDesk@un.org
Ffôn: +41 22 917 9220

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Gwefan: Y Comisiwn yng Nghymru (equalityhumanrights.com) (Yn agor ffenestr newydd)

Am gyngor ar hawliau

Gwasanaeth Cefnogi Cynghori a Chydraddoldeb
Gwefan: Equality Advisory and Support Service (equalityadvisoryservice.com) (Yn agor ffenestr newydd)
Ffôn: 0808 800 0082
Testun: 0808 800 0084

Clinig Cyfraith Abertawe
Cyngor am ddim i am broblemau cyfreithiol
Gwefan: Swansea Law Clinic (swansea.ac.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
E-bost: lawclinic@swansea.ac.uk 
Ffôn: 01792 295387
 
Canolfan Gyfreithiol Plant
E-bost: childrenslegalcentre@swansea.ac.uk
Cyfeiriad:
Tecniwm Digidol
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP

 

Arweiniad hawlaiu yn eich poced - fersiwn hawdd ei darllen (PDF)

Mae’n fersiwn hawdd ei ddeall o‘Hawliau yn eich Canllaw Poced’.