Awgrymiadau i rieni / gofalwyr wrth fynd i adolygiad ar gyfer eich plentyn Byddwch yn barod
Cyn y cyfarfod / adolygiad ysgol.
Ydw i'n gwybod:
- Ble mae'r cyfarfod? (Llwybr, parcio etc)
- Yr amser? (Pryd? Pa mor hir bydd yn para?)
- Pwy fydd yno?
- Pam y mae'n cael ei gynnal?
- Beth rwyf am ei gyflawni?
- Pa ganlyniadau y bydd eraill am eu cael?
- Sut rwy'n teimlo - sut byddaf o bosib yn ymddwyn?
- Sut mae eraill yn teimlo - sut gallent ymddwyn?
- Ydw i wedi cofnodi'r holl gwestiynau rwyf am eu gofyn?
- Oes gen i'r holl wybodaeth a gwaith papur y mae eu hangen arnaf?
- A fydd rhywun yn cymryd nodiadau? (Partner neu ffrind o bosib).
- Ydw i am fynd a rhywun gyda fi? (Partner, ffrind etc).
- Oes gen i farn fy mhlentyn neu a fydd fy mhlentyn yno?
Ar ol y cyfarfod?
- Ydw i wedi deall popeth a ddywedwyd? (Gall fod yn ddefnyddiol cadarnhau hyn drwy anfon e-bost neu lythyr i'r ysgol).
- Ydw i'n hapus a'r ffordd y mae pethau wedi mynd?
- Ydw i'n teimlo y daethpwyd i gytundebau y gall pob un ohonom lynu wrthynt?
- Ydy pawb yn gwybod yr hyn maent yn ei wneud nesaf?
- Beth ydw i'n ei wneud nesaf?
- Oes rhywun yn cydlynu'r camau gweithredu?
- Fydda i'n cael nodiadau neu gofnodion y cyfarfod?
- Os yw'n gyfarfod Adolygiad Blynyddol, a fyddaf yn gweld y ffurflen Adolygiad Blynyddol cyn iddi gael ei hanfon i'r awdurdod lleol?
- Pryd byddwn ni'n adolygu cynnydd?