Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bathodynnau Glas sydd ar goll, wedi'u dwyn, wedi'u difrodi neu wedi colli eu lliw

Os bydd eich Bathodyn Glas yn mynd ar goll, yn cael ei ddwyn, yn colli lliw neu'n cael ei difrodi, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael bathodyn newydd.

Os ydych yn colli Bathodyn Glas

Dylech ffonio ni ar 01792 637366 i drefnu apwyntiad yn y Ganolfan Ddinesig. Byddwn yn gofyn am rai manylion gennych ynglŷn â sut cafodd y bathodyn ei golli, ei ddwyn, ei ddifrodi neu pa mor ddrwg y mae wedi colli ei liw.

Os bydd gennych hawl i gael Bathodyn Glas o hyd, byddwn hefyd yn dweud wrthych pa dystiolaeth bydd yn rhaid i chi ddod gyda chi pan fyddwch yn dod i'r ganolfan gyswllt i gwblhau'r cais.

Os oes posibilrwydd y byddwch yn cael anhawster cyrraedd y Ganolfan Ddinesig, dylech grybwyll hyn wrth dîm y Bathodyn Glas pan fyddwch yn ffonio a byddwn yn egluro'r trefniadau sydd gennym i'ch helpu.

Os yw'r bathodyn ar goll neu os cafodd ei ddwyn, byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu datganiad ysgrifenedig am golli eich bathodyn neu ladrad eich bathodyn. Os cafodd ei ddwyn, byddwn hefyd yn gofyn i chi am rif trosedd gan yr Heddlu.

Os mai cyfnod byr yn unig sydd ar ôl nes i'ch bathodyn gwreiddiol ddod i ben, gallwn drin eich cais fel cais a ailgyflwynir neu gallwn roi bathodyn dros dro am gyfnod byr.

Os ydych yn dod o hyd i Fathodyn Glas

Os ydych yn dod o hyd i Fathodyn Glas, dychwelwch ef i'r Tîm Bathodynnau Glas, y Ganolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.