Annog ymwelwyr i gadw traethau'n lân
Mae ymwelwyr â thraethau hardd Abertawe yn cael eu hannog i wneud eu rhan i'w cadw'n ddiogel ac yn lân wrth i'r cyfnod cyn gŵyl y banc ddechrau.

Mae tîm o lanhawyr traethau'r Cyngor wedi bod yn gwneud eu rhan drwy gydol yr haf i fynd i'r afael â sbwriel a chadw toiledau cyhoeddus yn lân.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyhoeddus, fod y Cyngor wedi recriwtio 30 aelod o staff tymhorol ychwanegol dros fisoedd yr haf i fynd i'r afael â sbwriel a chadw cyfleusterau cyhoeddus mewn cyflwr da i ymwelwyr.
Mae'r Cyngor yn gwario tua £6.5m y flwyddyn ar gasglu sbwriel o'n strydoedd ac o fannau cyhoeddus ac mae recriwtio staff ychwanegol ar gyfer misoedd yr haf yn rhan o'i ymrwymiad ehangach i warchod yr amgylchedd a chadw'r ardal yn daclus.
Meddai'r Cyng. Anderson, "Wrth i ŵyl y banc mis Awst nesáu, rydym am i ymwelwyr chwarae eu rhan hefyd wrth sicrhau bod ein parciau a'n traethau yn daclus ac yn lân i bobl eraill eu mwynhau ar ôl iddynt adael. Os yw'r biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi.
"Mae ein toiledau cyhoeddus yn cael eu glanhau'n rheolaidd, yn enwedig y rhai ar draethau prysur. Ond dim ond un person sydd ei angen i'w gamddefnyddio i'w ddifetha i bawb arall."
Yn ogystal â mynd i'r afael â sbwriel, mae'r glanhawyr traethau ar gyfer yr haf wedi bod yn helpu i gadw rhwydwaith cynyddol o gyfleusterau Changing Places y Cyngor mewn lleoedd fel Knab Rock a Rhosili yn lân ac maent wedi bod yn clirio tywod a chwyn oddi ar lwybrau troed ac ar ymyl y ffyrdd.
I gael gwybod rhagor am eich traethau lleol, gan gynnwys y pedwar traeth Baner Las arobryn, ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/traethau
I gael gwybod rhagor am barciau Baner Werdd Abertawe a'i mannau agored gwych eraill ewch yma: https://www.abertawe.gov.uk/parcia