Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth yw Treth y Cyngor a pwy sy'n gorfod talu?

Mae Treth y Cyngor yn ffurf ar drethiad lleol. Mae'n seiliedig ar ddefnydd a/neu berchnogaeth eiddo domestig ac yn ardal Abertawe mae awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe'n ei godi ac yn ei gasglu.

Codir y dreth ar bob annedd ddomestig ac mae'n rhagdybio bod 2 oedolyn yn defnyddio pob eiddo.

Pwy sy'n gorfod talu Treth y Cyngor?

Fel rheol gyffredinol, y sawl sy'n defnyddio eiddo sy'n gorfod talu Treth y Cyngor ac fel arfer y perchennog neu'r tenant fydd hynny.

Beth yw diffiniad 'preswylydd'?

Preswylydd yw rhywun sy'n defnyddio'r eiddo fel ei 'unig neu brif breswylfa' - mewn geiriau eraill, ei gartref ydyw.

Beth os yw fy nghartref yn wag y rhan fwyaf o'r amser?

Efallai y cewch eich ystyried fel y sawl sy'n ei ddefnyddio beth bynnag, hyd yn oed os ydych yn treulio amser helaeth oddi cartref, er enghraifft, os ydych yn gweithio oddi cartref neu dramor.

Beth os nad oes neb yn byw yno?

Os nad oes neb yn defnyddio'r eiddo, sy'n golygu nad oes neb yn byw yno mewn gwirionedd, y sawl sydd â hawl gyfreithiol i ddefnyddio'r eiddo yw'r sawl sy'n atebol am Dreth y Cyngor.

Yn y rhan fwyaf o achosion, perchennog yr eiddo fydd hynny.

Beth os oes mwy nag un yn atebol?

Mae'n ddigon posibl y bydd mwy nag un yn atebol am dalu yn yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fo cyd-berchnogion neu gyd-denantiaid
  • mae partneriaid perchnogion a thenantiaid hefyd yn gydatebol am y tâl, e.e. gwŷr, gwragedd a phartneriaid sifil

Lle mae mwy nag un yn atebol am dalu Treth y Cyngor, caiff y cyngor chwilio am daliad am y cyfan neu ran o'r ddyled gan unrhyw un o'r bobl atebol, hyd yn oed os yw eisoes wedi talu'r hyn mae'n ystyried yw ei gyfran.

Oes eithriadau i hyn?

Mae eithriadau i'r rheol hon, pan mai'r perchnogion sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor:

  • tai 'amlbreswyl'
  • cartrefi nyrsio, cartrefi gofal a rhai hostelau sy'n darparu lefel uchel o ofal
  • ficerdai a chartrefi eraill lle mae gweinidog crefydd yn byw ac yn gweithio
  • cymunedau crefyddol megis mynachlogydd neu leiandai
  • eiddo a ddefnyddir ar gyfer llety staff
  • eiddo a ddefnyddir gan geiswyr lloches