Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn bartneriaeth o asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau lleol.
Pedwar aelod statudol y Bwrdd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyngor Abertawe.
Fe'i cefnogir gan Ddinas a Sir Abertawe ac mae hefyd yn cynnwys darparwyr gwasanaethau pwysig eraill; er enghraifft, yr heddlu a'r prifysgolion.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob ardal cyngor lleol yng Nghymru fod â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) sydd â'r nod o gydweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Nodir y gofyniad hwn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'n ofyniad i bob BGC gynnal asesiad o les er mwyn deall lefelau lles presennol a'r hyn sy'n bwysig i'r rhan fwyaf o gymunedau lleol a llunio Cynllun Lles Lleol er mwyn gwella lles. Yn ddiweddar mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi drafft o'i ail Asesiad o Les Lleol er mwyn ymgynghori arno.
Roedd y sylfaen dystiolaeth hon o fewn yr Asesiad o Les Lleol (2017) ynghyd â barn dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth, staff, arweinwyr a rhanddeiliaid wedi llywio datblygiad Cynllun Lles Lleol cyntaf Abertawe yn 2018. Roedd y cynllun, Gweithio gyda'n Gilydd i Adeiladu Dyfodol Gwell, yn nodi pedwar amcan i weithredu arnynt ar y cyd, gyda cham gweithredu trawsbynciol yn sail iddynt.