Toglo gwelededd dewislen symudol

Blaenraglen waith priffyrdd 2025 - 2028

Mae Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnal a chadw 1002 km (622 milltir) o ffyrdd cerbydau a llwybrau troed priffyrdd a fabwysiadwyd yn ei ffiniau, gan sicrhau bod yr holl faterion cynnal a chadw a rheoli priffyrdd yn cael eu gwneud yn effeithiol.

Rhaglen tymor hir o waith cynlluniedig yw hon a gall newid. Gallwch weld ein rhaglen ailwynebu ar gyfer y flwyddyn bresennol yn: Rhaglen ailwynebu ffyrdd

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

1. Cyflwyniad

Cyngor Abertawe yw'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer pob ffordd nad yw'n gefnffordd yn sir Abertawe y mae'n rhaid ei chynnal a'i chadw ar draul y cyhoedd. 
  
Mae'r rhwydwaith yn cynnwys 1002 cilomedr o ffordd gerbydau, 2135 cilomedr o droedffordd, >29,000 o unedau goleuo, 221 o adeileddau a 39,053 o unedau draenio gyda gwerth ffordd gerbydau amcangyfrifedig o dros £1.4 biliwn. 
 
Ar hyn o bryd, mae'r cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd cerbydau, sef ein prif ased mwyaf, yn llai na'r ffigur lleiaf y mae ei angen i ddarparu cyflwr cyson neu atal y dirywiad a ragwelir yn y blynyddoedd i ddod.   
 
Cyfrifir mai'r gyllideb sydd ei hangen i gynnal cyflwr cyson ffyrdd cerbydau yn unig yw £5m.  
 
O ystyried cyflwr presennol rhai rhannau o'r rhwydwaith priffyrdd, y diffyg cyllid a'r effaith os bydd newid yn yr hinsawdd a chynnydd mewn cyfnodau o dywydd garw, rhagwelir y bydd cynnydd amlwg yn nirywiad y rhwydwaith.  
 
Mae'r rhaglen hon yn dangos y gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2025 i 2028.  Fel y nodwyd yn gynharach, dewiswyd y gwaith yn seiliedig ar flaenoriaeth y côd arfer da ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd. Mae'n cwmpasu gwaith ar ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, systemau draenio, pontydd, ceuffosydd, waliau cynnal a goleuadau cyhoeddus. 
 
Mae'r blaenoriaethu yn seiliedig ar lawer o ffactorau gan gynnwys cyflwr, pwysigrwydd rhwydwaith, blaenoriaeth cynnal a chadw, pryderon cyhoeddus /gwleidyddol a chyfraniadau teithio llesol.  
 
Rhennir y gyllideb rhwng cynnal a chadw ataliol ac adweithiol ac adroddir ar gynnydd bob blwyddyn mewn adroddiad opsiwn statws blynyddol. 
 
Gall y rhaglenni a restrir ar y tudalennau canlynol newid oherwydd grymoedd allanol, newid mewn cyllid, dirywiad etc., os oes unrhyw newidiadau sylweddol, cyhoeddir rhaglen wedi'i diweddaru yn unol â hynny.

2. Sut mae cynnal cyflwr? 

Rydym yn asesu cyflwr cyffredinol gan ddefnyddio:

Archwiliadau rheolaidd Gellir cynnal y rhain yn rheolaidd yn ôl yr angen, o bob wythnos hyd at bob blwyddyn. 
Arolygon blynyddol Drwy ddefnyddio offer arbenigol - mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd o arolygon mecanyddol a gweledol sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am gyflwr ffyrdd.
Arolygon gweledol  Cynhelir arolygiadau gweledol neu fanwl bras gan swyddogion cymwys a hyfforddedig.  Cynhelir yr arolygiadau yn unol â pholisi a chofnodir a gweithredir y manylion yn unol â hynny 
SCRIM  Defnyddir arolygon "Peiriant Ymchwilio Arferol Cyfernod Grym Tua'r Ochr" i fesur ymwrthedd i sglefriad dros ddarnau helaeth o rwydwaith ffyrdd.  Nodi ardaloedd o ffrithiant wyneb gwael ar rwydweithiau ffyrdd. Gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer blaenoriaethau cynnal a chadw. Hefyd, os gofynnir amdano, cynorthwyo yn lleoliadau damweiniau ffordd prawf
Scanner 

Scanner yw'r enw a roddir i "Asesiad Cyflwr Wyneb ar gyfer y Rhwydwaith Cenedlaethol o ffyrdd" ac mae'n fanyleb ar gyfer arolygon cyflwr ffyrdd cerbydau awtomataidd.  Mae'n darparu dull cyson o fesur cyflwr arwyneb y ffordd gerbydau ac mae'n cefnogi gofynion cynnal a chadw priffyrdd fel a ganlyn: 

a) Datblygu gwybodaeth fanwl am gyflwr cyfredol ynghyd â gwerth

b) Disodli arolygon Archwiliad Gweledol Bras ac Archwiliad Gweledol Manwl a gall ddiffinio'r dewis gorau posib  o ran triniaeth, ynghyd â blaenoriaethu a lleihau'r costau cynnal a chadw 

c) Mae'n darparu sail ar gyfer dewis triniaeth ddangosol ac amcangyfrif o'r gyllideb ac mae'n ddefnyddiol wrth gynllunio gwaith cynnal a chadw'r rhwydwaith

d) Mae'n rhoi arwydd o gyflwr cyffredinol y rhwydwaith diffiniedig ac yn disodli arolygon fel Defflectograff ac archwiliad gweledol bras.

e) Nodi darnau neu ardaloedd penodol o'r ffordd gerbydau er mwyn sefydlu tueddiadau mewn cyflwr cynnal a chadw ffyrdd  Adroddiadau Gan gynghorwyr, cynghorau plwyf a grwpiau cymunedol

AdroddiadauGan gynghorwyr, cynghorau plwyf a grwpiau cymunedol.
AdroddiadauGan breswylwyr - gall unrhyw un adrodd am broblem ar ein ffyrdd mewn sawl ffordd.
Atgyfeiriadau gan dimau cynnal a chadw mewnol

Rydym yn defnyddio'r data i ddod o hyd i'r cynlluniau trwsio a blaenoriaethu mwyaf cost effeithiol. 

Rydym yn cydnabod bod ôl-groniad sylweddol ac nid yw pob ffordd mewn cyflwr gwael wedi'i chynnwys yn y rhaglen hon.  Felly, mae'r holl ffyrdd cerbydau a'r troedffyrdd a fabwysiadwyd yn destun archwiliadau diogelwch a phenderfynir ar amlder yr arolygiadau hyn yn unol â'n polisi. 

Caiff yr holl ddiffygion a nodwyd eu cofnodi, eu hadrodd, eu categoreiddio a'u blaenoriaethu i'w hatgyweirio yn unol â'r canllawiau a nodwyd yn y Côd Ymarfer Da a grybwyllwyd yn flaenorol.

3. Cynlluniau'r cerbydffordd

WardRhif y fforddLleoliadBlwyddyn y rhaglen
ClydachUCButterslade Grove, Clydach2025/26
GlandŵrC195Neath Road, Hafod (Pentre Mawr Road i rif 1336)2025/26
LlansamletA4217Nantyffin Road, Llansamlet2025/26
Pen-clawdd/ LlanrhidianB4295Penclawdd to Llanrhidian2025/26
TreforysUCChristopher Road, Clydach2026/27
WaunarlwyddB4295Victoria Road, Waunarlwydd2026/27
CastellB4290Princess Way, Canol y Ddinas2026/27
LlansamletB4295Blawd Road, Llansamlet2026/27
LlangyfelachB4489Heol Llangyfelach, Llansamlet2026/27
WaunarlwyddB4295Swansea Road, Waunarlwydd2027/28
CilâUCWimmerfield Drive, Cilâ2027/28
Y MwmbwlsA4067Mumbles Road, Y Mwmbwls (George Bank i Mumbles Pier)2027/28
FairwoodUCGowerton Road, Y Crwys2027/28

Map displaying Swansea's wards

4. Cynlluniau Troedffyrdd

Enw'r WardEnw'r fforddRhaglen blwyddyn
PenderriEppynt Road, Penlan2025/26
UplandsThe Grove, Uplands2025/26
TownhillGraiglwyd Road, Townhill2025/26
UplandsMirador Crescent, Uplands2025/26
Y CocydOld Carmarthen Road, Y Cocyd2025/26
Y MwmbwlsThistleboon Drive, Y Mwmbwls2025/26
MayalsBirkdale Close, Mayals2025/26
Llandeilo FerwalltSouth Close, Llandeilo Ferwallt2025/26
CilâHeaselands Place, Cilâ2025/26
TreforysPenmachno, Treforys2025/26
LanglandHigher Lane, Langland2025/26
ClydachKingrosia Park, Clydach2025/26
TownhillIslwyn Road, Mayhill2025/26
Y CocydAldwyn Road, Fforestfach2025/26
SgetiParklands View, Sgeti2025/26
Mynydd-bachCwmgelli Close, Mynydd-bach2025/26
Gorseinon/ PenyrheolCross Street, Gorseinon2026/27
Gorseinon/ PenyrheolTrinity Street, Gorseinon2026/27
SgetiMumbles Road, Y Mwmbwls2026/27
West CrossEastmoor Park Crescent, West Cross2026/27
West CrossMoorside Road, West Cross2026/27
West CrossBrookvale Road/ Grange Road, West Cross2026/27
LlansamletStation Road, Glais2026/27
Y CocydAldwyn Road, Fforestfach2026/27
ClydachKingrosia Park, Clydach2026/27
Mynydd-bachLlewelyn Park Drive, Treforys2026/27
LlwchwrMaes yr Haf Place, Llwchwr2026/27
Y MwmbwlsCaswell Drive, Y Mwmbwls2026/27
Mynydd-bachCaemawr Road, Treforys2026/27
LlwchwrHighfield, Gorseinon2026/27
TreforysPleasant Street, Treforys2027/28
West CrossMulberry Avenue, West Cross2027/28
TreforysMaes y Bryn, Treforys2027/28
Dyfnant a ChilâCae Crwn, Dyfnant2027/28
TregŵyrPen y Dre, Tregŵyr2027/28
TregŵyrGeorge Manning Way, Tregŵyr2027/28
Y MwmbwlsWalters Crescent, Y Mwmbwls2027/28
Dyfnant a ChilâHendrefoilan Road, Cilâ2027/28
PenderriClase Close, Portmead2027/28
SgetiParklands View, Sgeti2027/28
TownhillGwynedd Gardens, Townhill2027/28
Y CocydCockett Road, Y Cocyd2027/28
PenderriHeol Frank, Penlan2027/28
TreforysRosemary Court, Treforys2027/28
MayalsMuirfield Drive, Mayals2027/28

Micro asphalt treatment before

Gosod wyneb tenau (Cyn) 

Micro asphalt treatment after

Gosod wyneb tenau (Ar ôl) 

Inlay treatment before

Llwybr troed cyn ei drin

Inlay treatment after

Llwybr troed ar ôl ei drin

5. Amser y Gwaith

Mae'r rhaglenni uchod wedi'u trefnu yn seiliedig ar wybodaeth bresennol.  Fodd bynnag, gallant gael eu diwygio gan ddibynnu ar nifer o ffactorau nad ydynt yn gyfyngedig i:

  • Gydlynu â chwmnïau cyfleustodau
  • Ariannu diffygion neu wargedau
  • Anawsterau technegol a/neu atebion brys  
  • Tywydd annisgwyl
  • Covid-19 
  • Fodd bynnag, mae'r awdurdod yn hyderus yr ymgymerir â'r rhan fwyaf o gynlluniau sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd erbyn 2028.

6. Caffael a'r dull cyflwyno

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud gan Bartneriaeth Priffyrdd Abertawe sy'n cynnwys consortiwm o Gontractwyr Alun Griffiths a Hanson ynghyd â SGU mewnol.

Mae gwaith arbenigol yn cael ei gaffael drwy dendro yn y fan a'r lle neu'n flynyddol yn ôl y gofyn.

7. Rhaglen waith ychwanegol 2025/27

Cyllid mewnol 2025/26

  • J44 cylchfan Peniel Green Road
  • J44 Slip Road
  • Lon Cynlais, Sgeti
  • Glan Yr Afon Road, Sgeti
  • Westland Avenue, West Cross
  • Woodfield Street, Treforys
  • Brynmill Lane, Uplands
  • Mumbles Road, Y Mwmbwls (Norton Avenue i rif 61)
  • High View, Mayhill

Cyllid y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol 2025/26

  • Mill Street, Tregŵyr
  • Elba Street junction with Mill Street, Tregŵyr
  • Pontardulais Road, Gorseinon
  • Lon Camlad, Treforys
  • Bishopston Road, Llandeilo Ferwallt
  • Carmarthen Road, Cwmbwrla (gan cylchfan Cwmbwrla i cylchfan Wickes)
  • Carmarthen Road, Cwmbwrla (gan cylchfan Wickes i cylchfan Cwmbwrla)
  • West Cross Avenue, West Cross
  • Goetre Fawr Road, Cilâ
  • Ridgeway, Cilâ
  • Birchgrove Road, Gellifedw
  • Glynhir Road, Pontarddulais
  • Lone Road, Clydach
  • Llanrhidian to Oldwalls, Gŵyr
  • Vennaway Lane i North Hills Junction

Cynlluniau ailwynebu bach 2025/26

  • Victoria Road, Pen-lcawdd
  • Waunarlwydd Road, Waunarlwydd
  • Swansea Road, Waunarlwydd
  • Roseland Road, Waunarlwydd
  • Fairyhill Lane, Gŵyr
  • Kingsbridge Square, Llwchwr
  • Walters Road, Uplands
  • Cae Mansel Road, Tregŵyr
  • Lan Coed, Bonymaen
  • Cardigan Crescent, Bonymaen
  • Cilgerran Place, Bonymaen
  • Glebe Road, Llwchwr
  • Middle Road, Ravenhill
  • Weig Fach Lane, Y Cocyd
  • Old Carmarthen Road, Y Cocyd

Cyllid mewnol 2026/27

  • Chestnut Avenue, West Cross
  • Higher Lane, Newton
  • Mynydd Newydd Road, Penlan
  • Mansel Road, Bonymaen
  • Llewellyn Park Road, Treforys
  • Foxhole Road, St. Thomas

Cyllid y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol 2026/27

  • Uplands Terrace, Uplands
  • Cylchfan Morfydd Street, Treforys
  • Vardre Road, Clydach
  • Cae Mansel Road, Tregŵyr
  • Hendrefoilan Road, Sgeti
  • Hendrefoilan Drive, Sgeti
  • Roseland Road, Waunarlwydd
  • Oldwalls to Llanmadoc, Gŵyr
  • Cylchfan Cwm Level Road, Plasmarl
  • Ynys Penllwch Road, Clydach
  • Cylchfan Ynys Penllwch Road, Clydach
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2025