Toglo gwelededd dewislen symudol

Hylendid a diogelwch bwyd yr Awdurdod Iechyd Porthladd

Mae'r awdurdod yn gyfrifol am wirio safon hylendid bwyd a glanweithdra ar longau ac mewn mangreoedd bwyd ar y glannau yn ein hardal fel ffreuturau a warysau wrth ymyl y cei.

Mae Gorchymyn Hylendid Bwyd (Llongau ac Awyrennau) 2003 yn cymhwyso'r un drefn rheoleiddio hylendid bwyd i longau ag sy'n berthnasol i fangreoedd bwyd ar y glannau. Fodd bynnag, rhaid i bob busnes bwyd ar y glannau yn ein hardal ni gofrestru eu mangreoedd gyda'r awdurdod hefyd cyn dechrau masnachu ac arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd priodol. Gweler y ddolen ar gyfer ein 'Polisi Gorfodi' sy'n cynnwys ein cynllun gwasanaeth gorfodi diogelwch bwyd, a'n polisi ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion ynglŷn â safon y gwasanaeth a ddarperir gennym.

Mae ein swyddogion yn cynnal archwiliadau glanweithdra a hylendid bwyd rhaglenedig ar longau ac mewn mangreoedd ar sail asesiad risg yn ôl y côd ymarfer a'r cytundeb fframwaith a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd yr archwiliad yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys systemau rheoli (gan gynnwys rheoli stoc); cyfleusterau a chyfarpar storio a pharatoi bwyd; storio dŵr ac ansawdd dŵr ar gyfer coginio ac yfed; dulliau rheoli tymheredd bwyd; mesurau rheoli plâu; ac ymwybyddiaeth o hylendid bwyd ymhlith y rheini sy'n trafod bwyd.

Bydd dogfennau sy'n gysylltiedig â'r ffactorau hyn hefyd yn cael eu harchwilio. Rydym yn cysylltu ag awdurdodau iechyd porthladdoedd eraill drwy Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (APHA) a phrosiect Shipsantrainet ledled yr UE gyda'r nod o rannu arfer da a sicrhau cysondeb gorfodi. Bydd data archwilio llongau'n cael ei rannu, yn gyfrinachol, rhwng awdurdodau iechyd porthladdoedd. Mae'n bosib y bydd adroddiadau archwiliadau hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Dŵr yfed

Gall ansawdd dŵr ar longau gael ei effeithio gan gyfanrwydd y cyflenwad cychwynnol neu ei halogiad unwaith y bydd ar y llong. Rydym yn samplo cyflenwadau ar longau'n rheolaidd ynghyd â mewn mangreoedd ar y glannau, pwyntiau cyflenwi a llinellau dosbarthu i'w harchwilio gan ficrobiolegwyr yn y Labordy Iechyd Cyhoeddus yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Gall samplau dŵr llong, gan gynnwys y rheini i adnabod presenoldeb Legionella; ac ar gyfer dadansoddi cemegol, a gymerwyd ar gais y llong fod yn destun tâl sy'n cynnwys adroddiad tystysgrifedig.

Safonau ansawdd dŵr

ParamedrLefel dderbyniolLefel gweithredu
Escherichia coli0>1 am bob 100 ml
Enterococci0>1 am bob 100 ml
Bacteria Coliform0>1 am bob 100 ml <100
Pseudomonas aeruginosa (pyllau sba)0>1 am bob 100 ml
Pseudomonas aeruginosa (pyllau nofio)50>50 am bob 100 ml

 

Escherichia coli (E. coli):Nid yw'n gallu tyfu yn yr amgylchedd, mae'r bacteria hwn i'w weld mewn ysgarthion dynol, anifeiliaid ac adar ac felly fe'i defnyddir fel dangosydd o halogiad ysgarthol.
Enterococci:Mae ei bresenoldeb yn dangos halogiad gan ysgarthion dynol neu anifeiliaid.
Bacteria Coliform:Mae hwn hefyd yn dangos halogiad ysgarthol, hylendid gwael, neu ddull annigonol o drin dŵr.
Cyfrif cytrefi erobig:Mae'n nodi effeithlonrwydd diheintio'r cyflenwad dŵr a'r system weithredu
Pseudomonas:Mae'n nodi bod y gwaith o gynnal a chadw'r system yn annigonol. Mae'n ffynnu mewn amodau cynnes a gall achosi haint ar y croen/y glust/y llwybr wrinol a niwmonia.
Legionella:Pneumonia sy'n gallu bod yn angheuol a geir drwy anadlu anwedd dŵr. Cliciwch y ddolen isod i gael cyngor am y clefyd, ei symptomau, lle gellir dod o hyd i'r bacteria a mesurau rheoli.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ynghylch Legionella a Chlefyd y Llengfilwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Diheintio

Y cyfansoddion a ddefnyddir amlaf ar gyfer diheintio dŵr yfed yw powdrau (calch clorinedig a hypoclorit prawf uchel) a hylifau (hydoddiant sodiwm hypoclorit a baratowyd yn fasnachol). Dylid ychwanegu hydoddiant clorin 50 rhan y filiwn at danc dŵr y llong pan fydd bron yn wag ac yna ail-lenwi â dŵr ffres tra bod yr arllwysfeydd llinellau dosbarthu ar agor nes eu bod yn rhyddhau dŵr sy'n arogli o glorin. Yna dylid ychwanegu at y system gyda hydoddiant clorin ffres yn lle'r dŵr a gollwyd trwy ddraenio. Yna dylid gadael y system i ganiatáu digon o amser cyswllt, rhwng 1 a 24 awr, gan ddibynnu ar grynodiad yr hydoddiant a ychwanegwyd. Yna dylid draenio ac ail-lenwi'r system gyda dŵr ffres gyda chynnwys clorin sy'n rhydd o weddillion nad yw'n llai na 0.2 rhan y filiwn yn y arllwysfa bellaf.

Cynaeafu pysgod cregyn

Mae amrywiaeth o bysgod cregyn yn cael eu cynaeafu o ddyfroedd yn ardal awdurdodaeth yr awdurdod. Porthwyr hidlo sy'n peri'r pryder bacteriolegol mwyaf, molysgiaid dwygragennog yn bennaf, yn enwedig y rheini o forydau a dyfroedd gyda'r glannau lle mae halogi ysgarthol yn fwy tebygol. Wystrys sy'n peri'r potensial mwyaf i achosi gwenwyn bwyd gan eu bod yn cael eu bwyta heb eu coginio fel arfer.

Mae Cyfarwyddebau Pysgod Cregyn yr UE yn gofyn am welyau, y mae pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu'n fasnachol ohonynt, i'w dosbarthu yn dilyn arolwg glanweithiol sy'n nodi ffynonellau llygredd posib a sefydlu pwyntiau sampl i fonitro'r ansawdd bacteriolegol. Mae cynnwys biotocsin y pysgod cregyn a'r dyfroedd lle mae'r gwelyau cynhaeafu yn gorwedd hefyd yn cael ei fonitro.

Rhaid i ddogfennau cofrestru a gyhoeddwyd gan yr awdurdod fynd gyda physgod cregyn a gynaeafwyd yn fasnachol yn ein hardal. Mae'r awdurdod yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol De-orllewin Cymru ac yn cydgysylltu'n agos ag awdurdodau lleol cyfagos a chyrff rheoleiddio eraill a phartneriaid sy'n ymwneud â chynaeafu pysgod cregyn lleol. Mae'r awdurdod hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe (GGLPBA).

Bwyd a bwyd anifeiliaid wedi'i fewnforio

Bwyd wedi'i fewnforio sy'n dod o anifeiliaid: Ar hyn o bryd nid oes unrhyw arolygfeydd ffin yng Nghymru lle caniateir mewnforio bwyd sy'n dod o anifeiliaid nad yw'n cael ei fewnforio o'r UE.

Rheolaethau pysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbysir amdano: Rhaid archwilio a gwirio'r holl gynnyrch pysgodfeydd sy'n cael ei fewnforio o ffynonellau nad ydynt yn yr UE. Mae hyn yn ychwanegol at y gwiriadau mewnforio arferol ar gynhyrchion o'r fath.

Bwyd wedi'i fewnforio nad yw'n dod o anifeiliaid: Mae llwythi bwyd o'r fath yn cael eu gwirio er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau priodol. Rhaid i lwythi gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd, labelu a'r gallu i olrhain. Mae mewnforion yn cael eu samplu ar gyfer dadansoddi a/neu archwiliad microbiolegol a gellir cadw llwythi wrth aros am ganlyniadau samplau - cynghorir mewnforwyr i gynllunio'n unol â hynny. Mae llwythi a wrthodwyd yn cael eu dinistrio neu eu hailallforio yn ôl y risg ar draul y perchennog. Mewn rhai amgylchiadau, gellir caniatáu iddynt fwrw ymlaen, dan oruchwyliaeth lem at ddibenion ac eithrio i'w bwyta gan bobl. O dan Reoliad yr UE (EC 669/2009) gellir mewnforio rhai mathau o lwythi bwyd risg uchel (fel cnau, ffigys a ffrwythau gwinwydd) ar bwyntiau mynediad dynodedig yn unig.

Mewnforion organig: Mae Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2009 yn mynnu bod yn rhaid hysbysu'r awdurdod o fewnforion cynnyrch organig cyn iddynt gyrraedd. Rhaid i dystysgrif arolygiad o'r wlad tarddiad fynd gyda bob llwyth.

Mewnforion bwyd personol: Mae cyngor ar ddod â bwyd i Brydain Fawr (Yn agor ffenestr newydd) ar gael ar wefan Gov.uk.

Close Dewis iaith