Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Rydym yn gyfrifol am Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.
Mae'r ardal y mae Awdurdod Iechyd y Porthladd yn ei chwmpasu'n mynd tua'r tir o linell ddychmygol a dynnwyd o Ben y Mwmbwls yn Abertawe i Bwynt Nash ger Porthcawl, mor bell ag y mae'r llanw'n llifo. Mae hi'n cynnwys y porthladd yn Abertawe, yr angorfeydd wrth lannau'r afon yng Nghastell-nedd, ystad y dociau a'r harbwr ym Mhort Talbot a'r harbwr ym Mhorthcawl.
Mae'r Awdurdod yn aelod gweithgar o Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd y DU ac yn cynnwys 19 o aelodau etholedig a enwebwyd gan yr awdurdodau glannau cyfansoddol perthnasol fel a ganlyn:
Mae'r awdurdod yn gyfrifol am wirio safon hylendid bwyd a glanweithdra ar longau ac mewn mangreoedd bwyd ar y glannau yn ein hardal fel ffreuturau a warysau wrth ymyl y cei.
Mae'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn darparu un fframwaith ar gyfer amddiffyn sifil yn y DU. Mae Rhan 1 o'r Ddeddf a'r rheoliadau ategol a'r canllawiau statudol ynghylch parodrwydd am argyfwng yn sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir i'r rheini sy'n cymryd rhan ar lefel leol.