Toglo gwelededd dewislen symudol

Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

Rydym yn gyfrifol am Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.

Mae'r ardal y mae Awdurdod Iechyd y Porthladd yn ei chwmpasu'n mynd tua'r tir o linell ddychmygol a dynnwyd o Ben y Mwmbwls yn Abertawe i Bwynt Nash ger Porthcawl, mor bell ag y mae'r llanw'n llifo. Mae hi'n cynnwys y porthladd yn Abertawe, yr angorfeydd wrth lannau'r afon yng Nghastell-nedd, ystad y dociau a'r harbwr ym Mhort Talbot a'r harbwr ym Mhorthcawl.

Mae'r Awdurdod yn aelod gweithgar o Gymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd y DU ac yn cynnwys 19 o aelodau etholedig a enwebwyd gan yr awdurdodau glannau cyfansoddol perthnasol fel a ganlyn:

Cyngor Abertawe10
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr2
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg1

 

Ffïoedd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

Manylion ein gwasanaethau a'r ffïoedd amdanynt.

Hylendid a diogelwch bwyd yr Awdurdod Iechyd Porthladd

Mae'r awdurdod yn gyfrifol am wirio safon hylendid bwyd a glanweithdra ar longau ac mewn mangreoedd bwyd ar y glannau yn ein hardal fel ffreuturau a warysau wrth ymyl y cei.

Rheoli Llygredd yr Awdurdod Iechyd Porthladd

Rydym yn cyhoeddi trwyddedau sy'n rheoleiddio gweithgareddau busnes a allai effeithio ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Argyfwng sifil posibl Awdurdod Iechyd Porthladd

Mae'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn darparu un fframwaith ar gyfer amddiffyn sifil yn y DU. Mae Rhan 1 o'r Ddeddf a'r rheoliadau ategol a'r canllawiau statudol ynghylch parodrwydd am argyfwng yn sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir i'r rheini sy'n cymryd rhan ar lefel leol.

Gwastraff arlwyo rhyngwladol Awdurdod Iechyd Porthladd

Mae Gwastraff Arlwyo Rhyngwladol (GARh) yn cael ei reoli er mwyn atal cyflwyno clefydau egsotig hysbysadwy fel clwy'r traed a'r genau i'r DU.

Polisïau'r Awdurdod Iechyd Porthladd

Polisïau a dogfennau defnyddiol eraill sy'n ymwneud ag Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.