Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoli Llygredd yr Awdurdod Iechyd Porthladd

Rydym yn cyhoeddi trwyddedau sy'n rheoleiddio gweithgareddau busnes a allai effeithio ar yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Mae amodau penodol yn cael eu gosod gyda thrwyddedau o'r fath yn manylu ar fesurau rheoli llygredd sy'n gyfreithiol rwymol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw weithgareddau Rhan A (2) yn ein hawdurdodaeth ond mae naw gweithgaredd Rhan B yn ymwneud â thrin sment, cynnyrch glo ac offer sgrinio symudol. Mae ffi yn daladwy ar gyfer pob cais ac mae tâl cynhaliaeth blynyddol hefyd yn berthnasol i bob proses, sy'n destun adolygiad cyfnodol ac archwiliadau ar sail risg.

Cofrestr gyhoeddus

Mae cofrestr yn cael ei chynnal gan yr awdurdod hwn o bob proses a ganiateir ac mae ar gael yn ein swyddfeydd. Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Busnesau a phrosesau a ganiateir
Enw'r BusnesProses a ganiateir
D Shed, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin glo a ganiateir
Cei Rhif 4, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin glo a ganiateir
Gorllewin Cei Rhif 4, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin glo a ganiateir
Glanfa Graigola, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin glo a ganiateir
Terfynell Cargo Castell-nedd, Llansawel, Castell-neddProsesau trin glo a ganiateir
Cemex Plant, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin sment a ganiateir
Premier Cement, Cei Rhif 6, Doc y Brenin, AbertaweProsesau trin sment a ganiateir
Tarmac Trading Limited, Glanfa'r Gwaith Haearn, Llansawel, Castell-neddProsesau trin sment a ganiateir
Stenor Mobile, Doc y Brenin, AbertaweOffer symudol a ganiateir

Cwynion am sŵn neu ansawdd aer gwael

Gellir gwneud cwyn am sŵn i adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol perthnasol.

Rhoi gwybod am broblem llygredd i Gyngor Abertawe

Gwybodaeth am niwsans sŵn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (Yn agor ffenestr newydd)

Gwybodaeth am niwsans sŵn gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr (Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir) (Yn agor ffenestr newydd)

Os oes gennych gŵyn am lygredd aer, arogl neu lwch sy'n dod o ardal y porthladd yna cysylltwch â ni gan ddarparu manylion. Ar ôl derbyn cwyn byddwn yn ymweld â'r person yr honnir ei fod yn gyfrifol ac yn cynnig cyngor i ddatrys y broblem. Os yw'r ymagwedd hon yn aflwyddiannus, byddwn yn cynnal ymchwiliad ffurfiol a allai gynnwys ein swyddogion yn mynd ati i fonitro ac arsylwi o safle'r achwynydd, a gallwn ofyn i'r achwynydd gadw cofnodion o sut mae'n effeithio arno. Os ydym yn fodlon bod trosedd wedi'i chyflawni mae gennym amryw o bwerau cyfreithiol i ddatrys y mater. Rydym yn ymdrechu i ymateb i bob cwyn ar y diwrnod y'i derbynnir.

Close Dewis iaith