Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am gadw lle yn y ganolfan ailgylchu

Cwestiynau cyffredin am y system cadw lle ar gyfer Canolfan Ailgylchu Llansamlet.

Pam ydych chi'n cyflwyno system cadw lle?

Bydd y system cadw lle yn caniatáu i ni wasgaru amserau ymweliadau preswylwyr drwy gydol y dydd ac osgoi ciwiau, gan ganiatáu i draffig lifo'n ddiogel a lleihau amserau aros. 

Oes cost am gadw lle?

Nac oes. Mae'r gwasanaeth cadw lle am ddim.

Ddylwn i gyrraedd yn gynnar?

Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn eich slot amser trefnedig neu fwy na 10 munud ar ôl i'ch slot gychwyn oherwydd efallai na chewch chi fynd i mewn.

Fydd ciwiau?

Os yw pawb yn defnyddio'r system cadw lle, ni ddylai fod ciw hir. Os yw pobl yn cyrraedd heb drefnu slot, bydd yn achosi oedi a chiwiau i eraill.

Oes angen i fi ddod ag unrhyw beth gyda fi?

Bydd angen i chi ddod â chopi o'ch e-bost cadarnhau cadw lle (bydd sgrinlun ffôn yn iawn) yn ogystal â phrawf o'ch cyfeiriad yn Abertawe fel bil trech y cyngor diweddar neu fil cyfleustod, trwydded yrru neu basport.

Alla 'i drefnu i ymweld ar yr un diwrnod?

Gallwch, ond bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn mynd â chopi o'ch cadarnhad cadw lle gyda chi fel prawf eich bod wedi cadw lle.

Pa wastraff ac ailgylchu sy'n cael ei dderbyn yn Llansamlet?

Mae rhestr lawn o'r hyn sy'n cael ei dderbyn ar we-dudalen y ganolfan ailgylchu

Ydych chi'n derbyn sachau du a gwastraff na ellir ei ailgylchu?

Derbynnir bagiau du a gwastraff na ellir ei ailgylchu yng nghanolfannau ailgylchu Llansamlet a Clun. 

Dylid rhoi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn unig yn y sachau du. Ni dderbynir unrhyw sachau sy'n cynnwys eitemau ailgylchadwy ac dim ond didoli cyfyngedig yn unig ar gael ar y safle.

Alla i ddod â fan neu ôl-gerbyd?

Gallwch, cyhyd ag y bod gennych yr hawlen berthnasol ar ei gyfer.

Beth os nad ydw i neu rywun rwy'n ei adnabod yn gallu trefnu ymweliad gan ddefnyddio'r we-dudalen?

Gallwch drefnu ymweliad ar ran rhywun arall e.e. perthynas agos os oes angen cymorth arno, neu gallwch gadw lle drwy ffonio 01792 635600.

Sawl gwaith galla' i ymweld?

Nid ydym wedi cyflwyno terfyn ffurfiol ar y cam hwn, ond byddwn yn monitro nifer y ceisiadau a wneir gan bob cyfeiriad ac yn cymryd camau i gyfyngu ymweliadau gan unigolion y teimlwn eu bod yn ymweld yn ormodol heb reswm da.

Oes angen i fi gadw lle er mwyn ymweld â'r canolfannau ailgylchu eraill?

Nac oes. Does dim angen cadw lle o flaen llaw er mwyn ymweld ag unrhyw un arall o'n safleoedd. 

Beth os na allaf fynychu mwyach ar y diwrnod a'r amser a ddewiswyd?

I ganslo'ch slot, anfonwch eich e-bost cadarnhau archeb gyda chais canslo i evh@swansea.gov.uk cyn gynted â phosibl cyn eich slot fel y gellir ei ddyrannu i breswylydd arall.