Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwraeth natur

Mae amrywiaeth fawr o gynefinoedd o fewn Abertawe, sy'n amrywio o glogwyni arfordirol, twyni tywod a morydau i ucheldiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd, coetiroedd a gwlyptiroedd.

Mae'r cynefinoedd hyn yn cefnogi amrywiaeth eang o fflora a ffawna, gan gynnwys rhai o rywogaethau mwyaf prin y wlad sydd dan y bygythiad mwyaf.

Mae natur yr ardal leol ac ymhellach yn darparu gwasanaethau ecosystem pwysig megis darparu bwyd, aer glân a dŵr, storio carbon a rheoli llifogydd yn ogystal â buddion economaidd ac iechyd a lles i'r rheini sy'n ymweld ag Abertawe ac yn byw yno. Yn ogystal â bod yn werthfawr yn ei hun, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn adfer, yn cadw ac yn gwella natur yn Abertawe fel y gallwn barhau i elwa ohoni yn awr ac yn y dyfodol.

Mae gan y Tîm Cadwraeth Natur ystod eang o gyfrifoldebau, a'i brif nod yw adfer natur ar draws dinas a sir Abertawe. Mae'r rolau y mae'r tîm yn ymgymryd â nhw'n cynnwys: rheoli safleoedd bywyd gwyllt sy'n eiddo i'r cyngor ac sy'n bwysig yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol; ecoleg cynllunio; cefnogi a galluogi adferiad natur a phrosiectau isadeiledd gwyrdd; cynnwys y gymuned; annog gwirfoddoli; a chyd-lynu partneriaethau lleol.

Gyda'i gilydd, mae'r tîm yn rhoi cyngor ynghylch cynlluniau, polisïau a chamau gweithredu, yn eu cydlynu ac yn eu cyflawni, er mwyn galluogi'r cyngor a sefydliadau eraill i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cadernid ecosystemau.

Natur yn Abertawe

Mae gan Abertawe amrywiaeth eang o natur i chi ei harchwilio.

Camau Gweithredu ar gyfer Natur

Sut rydyn ni'n helpu natur a beth gallwch chi ei wneud i helpu.

Digwyddiadau Natur a Gwirfoddoli

Cymerwch ran mewn digwyddiadau sy'n helpu cadwraeth natur.

Strategaethau a Chynlluniau Natur

Ein strategaethau a'n cynlluniau sy'n helpu adferiad natur.

Cynllunio, bioamrywiaeth a chadwraeth natur

Sut mae ein canllawiau a'n polisïau cynllunio yn helpu gyda bioamrywiaeth a chadwraeth natur.

Gwarchod coed

Yr hyn rydym yn ei wneud i warchod coed ar draws Abertawe.

Strategaeth isadeiledd gwyrdd

Mae'r strategaeth hon yn ystyried sut y gellir cynyddu isadeiledd gwyrdd yn Abertawe.