Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am gymorth teithio

Gwneud cais ar-lein am gymorth teithio i blentyn neu brson ifanc.

Llenwch y ffurflen hon os ydych yn gwneud cais am gymorth teithio i blentyn neu berson ifanc.

  • cymhwysedd;
  • y pellter mewn perthynas â phellteroedd cerdded statudol;
  • diogelwch y llwybr cerdded;
  • mae'r llwybr cerdded yn anaddas yn seiliedig ar anghenion penodol y plentyn;
  • mae angen addasiadau i'r trefniadau cludiant a ddarparwyd eisoes;
  • amgylchiadau eithriadol nad ydynt wedi'u rhestru uchod, sy'n rhai dros dro neu'n barhaol eu natur.

Sicrhewch eich bod yn darllen pob cwestiwn yn ofalus. Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth berthnasol ar ffurf dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais. Sylwer y gall methiant i ddarparu tystiolaeth briodol arwain at wrthod eich achos, bydd angen i unrhyw gostau o ddarparu tystiolaeth gael eu hariannu gennych chi fel yr ymgeisydd.

Bydd Uwch-swyddog yn adolygu eich achos ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarpeir gennych o fewn 20 niwrnod gwaith. Os rhoddir cymorth teithio, bydd Cyngor Abertawe yn penderfynu sut y darperir y cymorth hwn ac unrhyw ddyddiad adolygu. Ni allwn warantu y bydd cludiant unigol neu yrwyr penodol a chynorthwywyr teithwyr yn cael eu darparu.

Os rhoddir cymorth teithio, bydd unrhyw drefniadau'n cymryd o leiaf 10 niwrnod gwaith i'w rhoi ar waith o'r dyddiad y cytunir ar / dyfernir cludiant.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cais hwn, e-bostiwch trafnidiaethaddysg@abertawe.gov.uk.

 

Close Dewis iaith